Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychmygu'r helynt a wnai'r ddau Fardd! Ond dewch i mewn. Mae glendid Cymreig ar bob "celficyn," a chryfder diwastraff, defnyddiol, ymhob un. Mae'r cadeiriau Eistedd- fodol derw, a'r goron arian yno, ond heb ddim yn awgrymu eu bod am wthio'u hunain i'r golwg. Yn y gegin glyd, gyda'i thân glô carreg, a'r "pele," mae'r "hen stol" y canasai am dani, fod

Rhywbeth yn tremio wrth deithio y byd
Yn ol i'r hen stôl a'r hen aelwyd o hyd.

Ond y mae rhywbeth y mae mwy rhaid wrtho na derw a dodrefn i wneuthur cartref; ac yr oedd hwnnw yng nghartref y Bardd-calon fawr, seml, gynnes, yn cario'i gwres a'i goleu i bob cwr, ac i bob mynwes. Nid gwneuthur ei hun yn ddedwydd oedd ei amcan ef, ond dedwyddu eraill, a thrwyddynt hwy, dod at ei ddedwyddwch ei hun. Elai i mewn i bob teimlad yn ei deulu fel Archoffeiriad, a dygai groes pob un a ddelai. Ded- wyddaf ei deulu, dedwyddaf yntau! Ni ymdrechai wneuthur ei hun yn ddedwydd, ond ymdrechai eu gwneuthur hwy felly; a gwyddom am dano, gyda'i galon ei hun yn drist, yn peri ded- wyddwch iddynt hwy. Yr oedd ei wên, ei arabedd, a'i dalent, yn gwbl ar yr allor i hynny. Hyd yn oed pan ddaeth ei gystudd olaf, gwnelai mor ysgafn ag oedd modd o hwnnw, i gadw'r cysgod rhag disgyn arnynt hwy. Yn ei gystudd blin, aeth yn Sais ffraeth unwaith, er mwyn cael cyfle i dorri awyr yr ystafell â chwerthin. Yr oedd wedi gwella i raddau, ac yn gallu eistedd i fyny yn ei wely; ei briod dyner, hithau, yn meddwl yr hoffai y syniad o allu ei borthi ei hun yng ngrym yr ychydig nerth ddaethai yn ol iddo, a baratoisai ychydig gwstard mewn dysgl iddo, gan roi llwy gyfleus iddo i geisio ei fwyda ei hun, ond gyda'r hen wendid yn trechu, meddai, "Ann, this is too bad; I don't want to be dished, spoon me!"

Yr oedd " Ann," fel y galwai hi, yn haul i'w fywyd. Gan gyfeirio at ddydd ei briodas yn ei "Atgofion," meddai, "Y mae hi wedi bod yn wraig dda' i mi, o hynny hyd yn awr; wedi gweithio'n galed, a byw'n siriol a llawen, a chadw cartref glân, cysurus, ac wedi lletya mwy o fyfyrwyr a phregethwyr, a darlithwyr a beirdd, a llenorion, ac ymwelwyr o bob math, ac o bob gwlad, na neb o'i hoed yn Sir Gaerfyrddin, yr wyf yn sicr. Yr wyf yn gobeithio cael ei chadw cyhyd ag y byddaf