Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chadd hyd i'w hen nerth yn y Norton, gan nad fwyned ymgeledd Mr. a Mrs. Parry, ac er iached awelon y môr. Yn ol yn llesg ei gam i'r Gwynfryn, ac yn ol i ymladd â'i fynych wendid ! Yn ei nodion yn y "Diwygiwr" am Awst, a ysgrifenasai yng Ngorffennaf, meddai, "Y mae ein hegni wedi gwanhau, a'n nerth wedi difa gormod braidd am y pethau rhyfedd sydd wedi digwydd er pan ysgrifenasom o'r blaen." Ond aeth i Landrindod ddechreu Awst, ac meddai yn "Helyntion y Dydd" yn y "Diwygiwr" am Fedi, "Y mae'r gwyliau eleni eto yn tynnu i ben. Y mae hi yn ganol Awst, a'r dydd yn tynnu ei ddeupen ynghyd, a'r nos yn ymestyn, a'r hwyr a'r bore yn oeri. Y mae'r haf wedi bod yn eithriadol o boeth yng Ngorffennaf, ond erbyn hyn y mae'r hin wedi oeri llawer o raddau, ac nid yw hi mor bleserus ar fin y ffynnon, nac ar lan y môr; ac mae'r bobl yn rhedeg adref, ac yn falch o weled tân y gegin unwaith eto. Gobeithio fod. yr haf hyfryd wedi bod yn adnewyddiad nerth i gorff ac ysbryd llawer un, a bod talu ymweliad â hen leoedd cyfarwydd, a gweled hen wynebau, a chael ymgom å hen gyfeillion, wedi bod yn fwynhad ac yn gryfhad i gannoedd sydd yn brysur ar hyd y flwyddyn. . . . Y mae Llandrindod ddechreu Awst eleni wedi bod yn orlawn. o ymwelwyr. . . Yr oedd yn dda gennym glywed cymaint o Gymraeg yno. . . Yr oedd yno ddigon o bregethwyr Cymraeg a Saesneg i gynnal gwasanaeth beunyddiol, fore, a chanolddydd, a hwyr, Saboth ac wythnos, ar hyd yr holl amser; ond yr oedd llawer genau cyhoeddus, drwy drugaredd, yn ddistaw yno." Cyn diwedd ei nodyn, sonia am adeiladu Kilsby Hall, er cof am Kilsby. Mor debyg iddo ef!

Y gwendid a'r nychtod eto, a mawr ofn ei farw, yn Nhachwedd a Rhagfyr, 1904; ond aeth drwodd heb i'r fflam ddiffodd! Ceisio gorffwys yn ei wely y byddai, a cheisio darllen "darllen gwaith Ben Bowen," meddai Gwili, a safodd mor aml yn ymyl gwely'r Bardd, ac yr oedd ei arabedd yn llif, er gwaethaf ei beswch a'i boen."

Ond yr oedd cyfle byr eto i hen wynebau a oleuasid lawer tro gan heulwen ei arabedd ef i ddod i edrych cydymdeimlad â'u hen gymwynaswr. Ar nos Sadwrn, yn ystod y cwthwn blin hwn, daethai'r datganwyr enwog, Mri. David Hughes a