Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er na fu cwm erioed
Mor syml i'ch golwg chwi;
Rhwng y llwyni coed, ar y llwybr troed
Mae rhywbeth yno i mi.

Ar lan y grychiog nant,
Mewn garw wely gro;
Sy'n canu trwy y pant,
Wrth fynd o dro i dro;
Efallai nad yw hon
Ond dïeithr iawn i chwi,
Mae pob crych a thon, megis yn fy mron,
Mae rhywbeth yno i mi.

Ar ben y weirglodd gam,
O'r golwg yn y pant;
Mae bwthyn nhad a mam,
A llond y tŷ o blant;
Mae tai yn nês i'r nen
O lawer gennych chwi;
Er nad yw ei nen, fawr yn uwch na 'mhen,
Mae rhywbeth yno i mi.

Mae cadair freichiau fawr,
Ar deirclun wrth y tân;
Bum ganwaith gyda'i lawr,
Wrth wneuthur triciau mân;
Efallai nad oes un
Mor arw'n eich tŷ chwi;
Er mor wael ei llun, ac yn gloff o glun,
Mae rhywbeth yno i mi.

Ymffrostiai yng Nghwmgarw fel lle am nythau sâff," —"am fod y tir wedi ei dorri yn gaeau mân, fel yr oedd yno lawer o berthi; ac yr oedd eithin a chreigiau, a phrysglwyni, a glan afon yno, a digon o leoedd dewisol i adar y nefoedd nythu ar hyd y cwm, heblaw o dan fondo yr hen dai to cawn' oedd yno." Gwyddai am nythau adar yr holl fro—nyth y pinc, y dryw, y gochgam, llwydyberth, penfelyn yr eithin, a'r wenolen, heb anghofio'r fronfraith a'r fwyalchen, a llawer dydd difyr gafodd ef o lwyn i lwyn, ac o fondo gwellt i fondo yn chwilio am "nythau sâff." Yr oedd adnodau ymgeledd adar yn ei gof i gyd:—

Y sawl a dynno nyth gochgam,
Wêl 'e byth o wyneb ei fam.

Y sawl a dynno nyth y dryw,
Wêl 'e byth o wyneb Duw.