Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardaloedd, er mwyn i'w plant fod yn sicrach o ddysgu Saesneg. Dywed Mr. T. M. Evans, fel hen athro ym Mrynaman, mai gwae yr athro a esgeulusai hyn, gan rieni.

Rhyw ddau neu dri mis a fu ei arhosiad ef yn y ddwy ysgol. hyn, a hynny, gallai feddwl, "heb fod yn agos iawn i'w gilydd." Fel cannoedd o fechgynnos Cymru'r dyddiau hynny, daeth "mynd i'r gwaith" yn brofiad bore iddo, ac i'r gwaith glô dan y ddaear. Wyth mlwydd oed oedd ef yn dechreu ei fyd fel glöwr, gan ennill grot y dydd, a'i oleu. Ennill bychan mewn arian, ond yr oedd hynny" yn rhywbeth i son am dano," meddai ef. Ond os bychan oedd yr ennill ariannol, cafodd rywbeth gwell nag arian yn Lefel Fach y Tri Gloyn, a gwell na'r goleu a gai gyda'i "rot," oblegid gyda'i ewythr Owen y gweithiai, a chadwai hwnnw ddosbarth, bob amser ciniaw, dan y ddaear.

Yn yr "Ysgol Nos" honno, fel y galwai Watcyn Wyn hi, dysgai ddarllen ac ysgrifennu, adrodd ac areithio, canu a barddoni, "a chware draughts, a stôl ganddo." A chydag edmygedd na fyn heneiddio, meddai ef, gan gyfeirio at y cerrig geirwon a ddefnyddid i ysgrifennu arnynt, "Dyna feini coffa- dwriaeth sydd i'r dyn rhagorol hwnnw, wedi eu claddu yn y gob dan y ddaear!"

Cyfarfu â chymeriadau gwreiddiol iawn yno : "James Gorsto" a "Shon Pechod." Am y diweddaf, meddai ef, Nid oes gennyf un amcan paham y gelwid yr olaf yn Shon Pechod. Ai pechadur oedd, nis gwn i; un peth a wn i, mai un o seintiau'r dyddiau diweddaf oedd." Ond wrth gynnyg ar esboniad, eb efe, mor debyg iddo ef ei hun, "Efallai ei fod yn cael ei alw yn Shon Pechod' am ei fod yn sant, ac yn lladd ar bechod. . . . Yr unig beth nad oeddwn yn hoffi ynddo oedd, ei fod yn ceisio troi fy ewythr ya sant."

Yn y misoedd hyn, bu'n chware rhwng gwaith ac ysgol a "bugeila"—bugeilio defaid prin ei dad hyd dir yr hen Gwmgarw—" lle bychan i gadw pedair neu bump o wartheg, ychydig ddefaid ar fynydd y "Rhosfa," a dau geffyl bychan at waith y fferm." Nid oedd yn rhagori fel "bugail," am nad oedd ei sylw yn ddigon craff," a gwyddom am hwrdd o eiddo'i dad a brofodd y meddai well llygad i weled cyfle nag a feddai'r bugail bach. Pan ddaeth yn adeg iddo i fynd i'r gwaith eilwaith yn Lefel Gorsto, wedi bod dan addysg "Dafis y Scŵl," fel y