Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evan Gethin, Gwalch Ebrill, Meurig Aman, a Gwydderig. "Yr oeddynt ymhob Eisteddfod, ac yn cynnyg ar bob peth, ac yn wir yn agos clirio'r cyfan o lawer un." Cystadleuwyr aflonydd a pheryglus oeddynt," meddai ef. Ond er mor beryglus, ni ryfygodd y ddau gyntai erioed gario ffugenw. Ac am Evan Gethin, meddai ei gyd—fardd, fel efe ei hun, "Y mae ef, er ys llawer dydd, yn cystadlu mewn masnach, ac nid mewn barddoniaeth. Y mae wedi cael allan fod masnach yn talu y well."

Eisteddfod fach tai annedd fyddai'r Eisteddfod yr ymgeisid ynddi, yr hon a gynhelid ar hwyrnos ar y Rhosfa," cymydogion syml a difyr y lle yn ymgasglu iddi, a "Watcyn Morgan, y Pia," a'i fath, yn feirniaid. Daethai'r "Pia" i mewn i enw'r beirniad, am mai "Piahiroth" oedd enw'i gartref ar lan y nant"Garw." Yr oedd "Baalsephon" ar y tu arall i'r afon. "Tad llenyddol y gymdogaeth," meddai Watcyn Wyn, "oedd D. L. Moses," a gadwai ysgol am ysbaid yn y "Capel Bach ym Mrynaman. Fel hyn y canodd ar ol un Beatrice. fach, a fuasai farw :—

Y gweryd ni chadd ragorach—erioed,
Na'r un fu anwylach;
Dwfn y clwy,' mae'n rhaid mwyach.
Bod dros f'oes heb BEATRICE fach.

Heb fod nepell o'i ardal yr oedd "Ifor Cwm Gwŷs " a "Rhydderch Farfgoch," heb son am ei hen athro, a adwaenwyd ar ol hynny fel y Parch. Ben Thomas, Gurnos. Ond Meurig Aman, Gwalch Ebrill, Gwydderig ac yntau oedd yn cyd— chware barddoni. Ergydient ei gilydd â chynganeddion, fel y gwelwyd plant yn lluchio pelau eira at ei gilydd, ond fod mwy o gynghanedd rhwng yr ergyd â'r sawl a'i cawsai, yn yr amgylchiad cyntaf nag oedd yn yr olaf. Ni thorrid cyng— hanedd, ac ni ddolurid llygad, chwaith. Bechgyn iach eu hysbryd oeddynt, yn cael moddion digrifwch diniwed ymhob peth ymron.

Gwydderig oedd y pen campwr ar y gynghanedd, a dygodd ei lawryf yn lew hyd heddyw. Efe a ddysgodd gynghanedd i'r ddau eraill, "nid o lyfr," meddai Watcyn Wyn, "nac mewn dosbarth, ond ar hyd yr heolydd, wrth ei harfer hi." Am addysg Gwydderig ei hun yn y gyng-