Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanedd, meddai'r un gŵr ffraeth eto, "Nid wyf yn gwybod gan bwy y dysgodd ef, ac nid wyf yn credu ei fod ef ei hun yn gwybod: credwn y gall ddywedyd fel 'Topsy,' mai tyfu ddarfu'r pethau hyn gydag ef." Ond ei harfer hi a wnai'r tri.

Dyna gôt fawr newydd am Gwalch Ebrill un diwrnod, a Watcyn Wyn yn rhoi barn anffafriol arni. Ond meddai'r Gwalch ar unwaith—

Y gôt oreu fu'n y Gwter Fawr.

Beth bynnag am y gôt, mae y gynghanedd yn newydd, ac yn gweddu mor dda ag y gallai unrhyw deiliwr yn ol Braint a Defod Ynys Prydain beri iddi. Meddai brawd Gwydderig un diwrnod, wrth nesu at y tân, wedi dyfod allan o'r gwaith glô, mor ddiniwed ag y gallai gwerinwr â chylla gwag ganddo ddywedyd, a'r " cawl yn berwi ar y tân:—

A oes cawl yn y skillet?

Ac meddai Gwydderig ar darawiad :—

Bachan, oes, cawl bach nêt.

Ergyd llenyddiaeth "carreg y parth" yn y Dê yw" cawl bach nêt."

Mae cannoedd o wragedd yn ei ddywedyd bob wythnos cyn rwydded a Gwydderig, ond nad ŷnt hwy yn gallu cael y "bachan " i mewn.

Gwnaeth Watcyn Wyn ei hun gannoedd o linellau difyfyr a diymdrech fel hyn, a cholled gwlad ac aelwyd yw na ddiogelwyd hwynt. "Y Wawr" gafodd un o'i gyffyrddiadau cynharaf:—

Ei hieuanc wyneb llawen,
Ar un waith wna'r sêr yn hên,

Mae ergyd cyfrin, pell, y llinell olaf, yn ennill ar feddwl dyn, ac yn ei gaethiwo i'w swyn.

Dyna'i fyd, yng nghymdeithas yr awenyddion hyn, ac o dan feirniadaeth y lleill a enwasom, megis "D. L. Moses," Ifor Cwm Gwŷs, a Ben Thomas. Ac mor ddifyr y rhaid fod y byd llunio englyn a'i gadw'n y cof, ei wella' a'i ystwytho, a'i adrodd wrth gamfa, neu yng nghysgod perth—cerdded i fân Eisteddfodau'r fro ar brynhawnau Sadwrn, wedi wythnos o waith a dyfnder du, croesi bryn a gwaun, dôl a dyffryn, a