Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NEWID BYD.

DAETH Watcyn Wyn i fyny o'r pwll glô du, ac i fyny i beidio mynd i lawr byth mwy. Ffarweliodd" â'r "gwaith glô," yn ei eiriau cartrefol ei hun, "pan tua saith ar hugain oed," am fod amgylchiadau wedi newid cwrs ei fywyd. Gwneuthum gartref i mi fy hun," meddai; —priododd. Yr oedd hyn pan tua chwech ar hugain oed. Yr oedd wedi bod yn lled gyfarch y byd swynol rhamantus hwn er pan oedd rhwng tair a phedair ar hugain oed." "Cyn hynny," meddai, "ni wyddwn i fawr am dano, a dichon i hynny fod yn fendith i mi." Llonydd "go lew i fwynhau gwanwyn gwyrdd ieuenctid diofal a dibryder,—llonydd i gael blâs ar ddarllen, a dechreu rhigymu, a dechreu cynganeddu " olygai hynny; er fod gan y ferch honno—Mary Jones, o'r Trap, ger Llandeilo, ddigon o gydymdeimlad â llenydda, a barddoni, a darllen, i beidio â thywys y dall allan o'r ffordd," meddai'r hwn a'i hadwaenai hi oreu.

Bu hi yn ysbrydiaeth ac yn amddiffyn iddo, ac meddai ef, "daeth rhodianna yn ysgol y nos i mi, i fy mharatoi i feddwl am ddydd bywyd." Priododd y ddau ar y 9fed o Ebrill, 1870. Ond ym mhen un-mis-ar-ddeg yr oedd yr elor mud wrth y "tŷ bychan yn ymyl yr heol, ym Mrynaman," a'i gweddillion hithau yn cael eu dwyn arni i'r bedd. "A gadawyd fi," meddai'r Bardd wylofus, "â merch fechan dair wythnos oed, ar ol!" Tarawyd tant newydd yn ei fywyd, a thant dieithr, na allasai ei swn deimlo'n gartrefol yn ei fywyd difyr ef. Ond mor gyfrin yr hiraeth! "Aeth hi i'r nef ym mis Mawrth, ac aeth y gwanwyn a'r haf ar y ddaear heibio, heb i mi eu gweled a'u teimlo fel arfer." Ni allasai calon ysig fynegi ei hiraeth mewn geiriau a gyffyrddai galon yn ddyfnach; "gwanwyn a haf yn mynd heibio heb eu gweled a'u teimlo fel arfer!"

Ond gwanwyn a haf ar y ddaear" oedd yn mynd heibio, hefyd. wyddai yn ei ddagrau am Wanwyn a Haf nad aent heibio, ac yr oedd "Mary" yn nofio yng ngwynfyd y rhai hynny.