ymenyn cartref yn blasu mor hyfryd! Na, meddai ef, "Tê main, a bara 'menyn tew; y bara yn dew wyf yn feddwl."
Gan mai efe oedd "yr hynaf yn yr ysgol," mae ei sylwadaeth ynglyn â hi o werth. Nid hir y bu cyn dod i'r casgliad mai "eithaf peth yw i Fethodist fynd at Annibynnwr i'r ysgol, neu Annibynnwr at Fethodist, neu Wesley at Fedyddiwr, i gael cymysgu tipyn ar waed yr enwadau gwahanedig sydd yn ein gwlad." Nid oedd y geiriau hyn ond adsain o'i fywyd eang ei gydymdeimlad, a syml ei ddull. Cashai gulni enwadol â châs cyfiawn.
Yr achlysur i'r sylw hwn oedd dyfodiad nifer o fyfyrwyr Coleg Trefeca i'r ysgol ym Merthyr, ar yr anghydwelediad a gymerasai le rhyngddynt hwy â'r Prifathro. Ac wedi profiad manwl a maith, synnai na byddai gennym fwy o golegau unedig, lle y gallai'r gwahanol enwadau adnabod ei gilydd cyn mynd yn ddall i ragoriaethau'r naill y llall." A chydag anhawster y Methodistiaid i ymuno ar Goleg unedig, yn ei gof, meddai, Y mae Corff y Methodistiaid y dyddiau hyn yn gwneud cam â'i enaid ei hun, gallwn feddwl!" Dyna awydd mawr ei fywyd gweld y genedl yn mynd yn fwy na'i gwahaniaethau bychain, ac yn manteisio ar gyd-gymdeithas i feithrin teimlad lletach, ac ysbryd haelfrydicach. Erioed ni chollodd gyfle i fyw a siarad yr ysbryd hwn; ac ni ymadawodd unrhyw ddisgybl â'i ysgol ragbaratoawl ef heb i'r ysbryd hwn ei feddiannu.
Ni feddai weledigaeth eglur gyda golwg ar ei ddyfodol, pan aeth i Ferthyr. Ei duedd gryfaf oedd sicrhau tystysgrif goruchwyliwr gwaith glô, ond aeth yr haint hwnnw heibio gyda chyngor addfed yr athro. Yn ei anerchiad yng Ngorsedd Eisteddfod Merthyr, ar ei chyhoeddiad, Gorffennaf 19, 1900, meddai:—"Fi fuo i allan am chwech o'r gloch y bore ugeiniau o weithiau ar hyd yr hen dips yma, yn ceisio dysgu' Hic, Haec, Hoc' a'u cymdeithion dieithr; ond yr wyf yn credu yn fy nghalon y buasai yn well ar fy lles fod wedi defnyddio yr oriau cynnar gwerthfawr hynny i ddysgu neidio Hec, a cham, a naid;' buaswn yn gryfach a hoywach dyn heddyw, pe wedi fy nghyfarwyddo i wneud hynny."
Buan y collodd gysgod mwyn yr athro hefyd, oblegid yn haf 1873, tra'n mynychu dosbarthiadau yn y Celfau, yn Llundain, cydiodd y typhoid ynddo, ac ychydig ddyddiau y bu