fyw wedi cyrraedd adref ar frys. Brysiasai'r efrydydd oddiar ei wyliau ym Mrynaman, i Ferthyr, i ymyl gwely ei athro claf; ond er ei wylio "braidd bob awr, ddydd a nos, yr wythnos olaf y bu fyw," collodd ef. Ergyd blin oedd hyn i'r myfyriwr briw ei deimiad—yr athro wedi marw yn ei freichiau. Gyda hynawsedd cyson ei athro, ac "ennill ambell wobr mewn Eisteddfod, i gael arian poced," llwyddai i ymgadw rhag angen. Cofiodd ei gyfeillion ym Mrynaman am dano, drwy anfon iddo £34 o elw cyngerdd a wnaethent iddo, "modd i ganu yn y nos," meddai ef, mwy o arian nag a welais erioed ar un olwg!"
Wedi'r gwyliau a'r angladd daeth yn ol i Ferthyr, i fod yn athro cynorthwyol i Mr. J. J. Copeland, M.A., yn ei hen ysgol, am "ychydig gyflog." Gwell cyflog iddo ef oedd dod i adnabyddiaeth o gyfeillion cydnaws—Rhys Lewis, Nathan Dyfed, Dafydd Morgannwg, Tydfylyn, Osian Dyfed, ac eraill beirdd a llenorion adnabyddus. Yno y clywodd "Osian Dyfed "— y Parch. J. Osian Davies, Llundain yn traddodi ei bregeth gyntaf, canys ym Merthyr y trigai "Csian" ar y pryd, a bu Watcyn Wyn ac yntau'n gyfeillion difyr. Mynnai Tydfylyn iddo yntau ddechreu pregethu, yr un pryd ag "Osian," oblegid ar bregethu y rhedasai ei fryd yn awr, ond gwell oedd ganddo ef "fynd adref i Gibea, Brynaman," i ddechreu ar hynny o waith; ac felly y bu.
Dechreuodd bregethu yn 1874, ar gais gweinidog y lle ar y pryd, y Parch J. Morlais Jones. Yn cydgychwyn âg ef, eithr ymhlith y Methodistiaid, yr oedd Mr. Henry Jones—y Proffeswr Sir Henry Jones, Glasgow, yn awr. Yr oedd Mr. Jones yn ysgol—feistr yn y lle ar y pryd. Pregethai Henry Jones "eithafol o orthodox y pryd hwnnw," meddai ef, a thybiai mai'r rheswm am yr uniongrededd addfed hwn oedd lliw diwinyddol y llyfrau yr oedd raid eu darllen ar gyfer arholiadau cynnar pregethwr gyda'r Corff. Ac ar ol dywedyd iddo ddechreu odfa i "Mr. Henry Jones," pan draddododd ei bregeth gyntaf, yng nghapel y Methodistiaid, Cwmaman, a son am dano yn "siarad yn glir ac yn dda" (dau nôd angen pregethwr gan Watcyn ar hyd ei oes), gan "draethu y pethau y gredid yn ddiameu yn y Corff," meddai, yn llawn chware, "Daeth Henry Jones wedi hyn i ddweyd ei feddwl ei hun yn bur groyw, ac nid oedd ei enaid ei hun yn ffitio'r Corff cystal." Difyr yw cofio i'r athronydd