Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r bardd gael odfa gyda'i gilydd cyn hwylio o'r cyntaf i'r Alban, i efrydu ym Mhrifysgol Glasgow, a'r olaf i lannau Tywi, i efrydu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Mwyn oedd cymdeithas y Bardd o lannau'r Aman i'r Athronydd o'r Alban bryd bynnag y ceid cyfle am ymgom, a deuai ei lythyr rhydd a difyr i'r Gwynfryn fel chwâ dros rug yr uchel-diroedd.