Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llundain; Towyn Jones (Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin); Rhondda Williams, Brighton; Esau Jones, Teignmouth; D. Bowen, Hermon, Manordeilo, ac eraill. Hawdd y gall efrydydd ieuanc ddiolch am gyfle fel hwn, ar gyfer dysg a phrofiad yr athrawon, a thalent naturiol, anturiaethus y bechgyn hyn a'u cyffelyb. Wrth gofio hyn, pa ryfedd fod yno "guro cryn dipyn ar gorneli ei gilydd mewn ambell gyfarfod ?"

Beth fu'r goleu a ddaeth arno o gyfeiriad yr athrawon, nid hawdd dywedyd, ond cafodd ef a'i gyd-efrydwyr gyfle i gyfarch rhai o bynciau uwchfeirniadaeth y blynyddau diweddaf hyn, a gwnaed hwy yn lled gyfarwydd â rhai o'i theithi; ac meddai ef," ychydig o ddim newydd sydd wedi ei ddysgu oddiar hynny hyd yn awr, nad oeddent hwy (y myfyrwyr) wedi eu paratoi ar ei gyfer." Dichon nad oeddynt mor "newydd " iddo ef hyd oed y pryd hwnnw ag oeddynt i rai o'r myfyrwyr, nid am ei fod ef wedi darllen mwy ac ymhellach na hwy, oblegid nid oedd yn ddarllenwr mawr. Yn hytrach na chymryd poen i ddarllen llyfr, meddwl yn ol yr ychydig neu lawer a ddarllenasai, a wnai ef, a meddwl yn galed, heb fod meddwl yn galedwaith iddo; ac felly yr oedd syniadau arweiniol, amlwg, llyfrau ac awduron yn dod yn eiddo pur naturiol iddo ef. Buasai wedi ymweithio iddynt fel wrth reddf. Gwelsom ef yn cynnil gerdded rhai o diroedd uwchfeirniadaeth, rai blynyddau cyn i'w harweddau diweddar ddod yn hysbys i ddarllenwyr Cymru, o'r hyn lleiaf. Nid oedd yn rhwym i unrhyw gyfundrefn, ond i'w reddfau naturiol ei hun. Rhaid ei fod yn ddisgybl cyfleus, hydrin, i athro eangfrydig, oblegid aethai i'r Coleg gyda'r syniad mai gwaith pennaf a blaenaf athro da, gonest, yw agor llygaid ei ddisgyblion, a'u cryfhau i edrych ymlaen, a dal Bydded goleuni y dyfodol sydd yn rhwym o ddigwydd o hyd ymhob creadigaeth." Ac meddai," Cawsom ni weled y goleu, a gellir dywedyd am y disgyblion, fel y dywedwyd am y disgyblion gynt: "A phan welsant, hwy a'i haddolasant; ond rhai a ameuasant." Nid addolwr cibddall oedd efe un amser. Safai yn ei gylch o oleuni, gyda'r goleuni hwnnw wedi magu ynddo barchedigaeth ddofn, groesawgar; ond parchedigaeth oedd mor naturiol a'i gariad at Hezeciah ei dad. Ei brif gŵyn yn erbyn y Coleg oedd prinder cyfle'r Gymraeg. Ni allai ddygymod â hyn un amser. Pan yn darlithio yn Rhydychen