Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAN I.



ARWEINIAD, COFIANT, A SYLWADAU.




TRAETHAWD ARWEINIOL

AR

Nodweddion Y Parch. ROBERT ROBERTS, Clynnog, fel Pregethwr.




GAN Y PARCH. G. PARRY.




TEIMMLWN wrth ddechreu ysgrifenu ychydig ar y testyn hwn, ein bod yn cynyg ar orchwyl tra anhawdd. Heblaw yr anhawsderau cyffredin sydd yn nglŷn â phob testyn o'r fath, y mae i hwn ei anhawsderau neillduol ei hunan. Anhawdd mewn gwirionedd yw tynu darlun o un- rhyw wrthddrych neu ddygwyddiad, pa un bynag ai mewn lliwiau ai mewn geiriau. Ychydig iawn a allant roddi desgrifiad clir a chywir hyd yn nod o'r hyn a welsant â'u llygaid eu hunain. Anhawdd yw darlunio mynydd neu ddyffryn, neu unrhyw olygfa naturiol; anhawddach yw darlunio dyn, y creadur ardderchocaf, hyd yn nod yn ei wynebpryd a'i agwedd allanol: anhawddach na'r cwbl yw darlunio teithi y meddwl a'r yspryd, y rhan ardderchocaf o'r dyn. A chredwn fod yn haws portreadu y bardd, yr athronydd, neu y gwladweinydd, na'r pregethwr llwydd- ianus. Cyferfydd ynddo ef elfenau mwy amrywiol; a pho fwyaf cymhlethedig yw unrhyw wrthddrych, anhawddaf ydyw ei ddeall a'i ddesgrifio.