Gorchwyl anhawdd yw tynu darlun boddhaol o bregethwyr mawr ein hoes ein hunain, er pob mantais a gaed i hyny trwy eu gwrando yn pregethu, ac yn traethu eu meddyliau ar wahanol faterion yn ein prif Gyfarfodydd, am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn rhaid i bawb deimlo eu nerth; ond nid mor hawdd yw dangos yn mha le yr oedd cuddiad eu cryfder yn gynwysedig, a nodi allan eu rhagoriaethau arbenig. Os yw hyn yn anhawdd gyda golwg ar y gwŷr enwog y cawsom gynifer o fanteision i'w hadnabod, trwy eu gweled a'u gwrando, sylwi ar eu neillduolion, a chymdeithasu â'u meddyliau a'u hysbrydoedd, pa faint mwy anhawdd ydyw rhoddi unrhyw ddarluniad o un nas gwelsom ac nas clywsom erioed, ac na chlywsom ond ychydig iawn o'r rhai a'i clywodd yn adrodd eu hadgofion am dano? Yr oedd Robert Roberts wedi marw cyn geni tad ysgrifenydd y llinellau hyn. Gorphenodd ei yrfa fer a dysglaer yn y fl. 1802, felly y mae wedi marw er's dwy a phedwar ugain o flynyddoedd.
Ond yr oedd adsain ei weinidogaeth yn llenwi y wlad hyd yn nod pan oeddym ni yn blant. Yr ydym yn cofio traddodiadau teuluaidd am dano pan nad oeddym ond ieuangc iawn. Nid oedd ond naturiol i lawer o son am dano, ac am effeithiolrwydd ei bregethu fod yn ein cartref yn moreuddydd ein bywyd, yn gymaint a'i fod yn berthynas agos i fam yr ysgrifenydd—yn ewythr iddi o frawd ei mham. Felly y mae ein hadgofion cyntaf am bregethwyr yn llawn o ymddyddanion ein rhieni a'u cyfeillion crefyddol yn ein tŷ am berthynasau ein mam—ei dau ewythr, Robert Roberts, Clynnog, a John Roberts, Llangwm; ei chefnder Michael Roberts, Pwllheli: a'i brawd y diweddar Robert Owen, Llundain, (Eryron Gwyllt Walia).
Gellir edrych ar Robert Roberts fel un o'r dolenau cysylltiol rhwng y tô cyntaf o bregethwyr y Methodistiaid â'r ail dô. Daeth i'r byd pan nad oedd y Cyfundeb eto ond yn ei fabandod. Ganwyd ef yn y fl. 1762, ugain mlynedd ar ol y Gymdeithasfa gyntaf oll, yr hon a gynhaliwyd yn Watford, yn y fl. 1742, a saith mlynedd ar ol genedigaeth Mr. Charles o'r Bala. Nid oedd Daniel Rowlands y pryd hwn yn llawn haner cant oed, na Whitfield a Howell Harries, y rhai oeddynt flwyddyn yn