ieuangach na Rowlands; ac yr oeddynt wedi bod yn pregethu tua chwech neu saith mlynedd ar hugain. Yr oedd Robert Roberts wedi dechreu pregethu rhyw dair blynedd cyn marwolaeth Mr. Rowlands. Yr ydym yn cofio, yn mhlith y pethau cyntaf a glywsom am dano, ein rhieni yn adrodd dywediad Mr. Daniel Rowlands wrtho ar ol yr oedfa, y tro cyntaf y clywodd ef yn pregethu. Yr oedd Mr. Rowlands wedi ymgadw yn guddiedig rhag i'w bresenoldeb darfu y pregethwr ieuangc; tybiodd yntau nad oedd Rowlands yn yr oedfa, ac yr oedd hyny yn gymhorth mawr iddo bregethu gyda mwy o ryddid ac eofndra: ac ymddengys iddo gael oedfa lewyrchus. Ar ddiwedd y bregeth, dyma Mr. Rowlands yn dyfod yn mlaen o rywle, ac meddai wrtho :—“ Wel, mi dybiwn fod yr Arglwydd wedi dy gymeryd yn rhyw brentis bychan i wneyd tipyn o fusness drosto yn y byd: gofala di yn awr roddi arian dy Feistr i gyd yn y drawer."
Am nerth anorchfygol ei weinidogaeth, a'i heffeithiau digyffelyb ymron ar y cynulleidfaoedd, nid oes dybygem ond un farn. Tystiai y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool, am dano: "Dywed pawb a'i clybu na chlywsant ei gyffelyb erioed." Dywed yr un gŵr yn mhellach (heblaw yr hyn a ddyfynwyd o "Methodistiaeth Cymru" yn y llyfr hwn—tu dal. 81–83) :—“Un o'r rhai hynotaf a gododd yn Ngwynedd yn yr oes a aeth heibio, oedd Robert Roberts o Glynnog. Dywedir fod yr awdurdod a wisgai weinidogaeth y dyn hwn, yn enwedig ar ryw achlysuron, yn annirnadwy. Codid ef ar yr achlysuron hyn, tybygid, yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Yr oedd yn cael ei wisgo â nerth o'r uchelder, y fath na fedrai dim ei wrthsefyll. Yr oedd bygythion y ddeddf yn disgyn ar gydwybodau ei wrandawyr, fel pe deuent o enau y Barnwr ei hunan; a newyddion da yr efengyl yn rhoddi iddynt y fath ymwared a phe clywsent lef o ganol yr orsedd—faingc yn dywedyd am yr euog: "Gollwng ef yn rhydd, myfi a gefais iawn." —"Methodistiaeth Cymru:" Cyf. I., tu dal. 231. Yr un modd y dywedai Dr. Thomas yn ei sylwadau rhagorol arno yn "Nghofiant y Parch. John Jones, Talsarn:" "Fe dynodd ei weinidogaeth, braidd ar unwaith, sylw cyffredinol, a daeth yn fuan y pregethwr mwyaf poblogaidd yn Nghymru.