Yr oedd rhywbeth ynddo fel pregethwr ag y mae yn anmhosibl ei ddarlunio, a rhywbeth nas gallwn ni, sydd heb ei glywed, ffurfio prin un dychymyg am dano. Tystiolaeth pawb a'r a'i clywsant yw, na chlywsent neb cyffelyb iddo." Felly y dywedai y patriarch, y diweddar Hybarch David Williams, Troedrhiwdalar, am dano, yr hwn a fu yn ei wrando ei hunan ac oedd yn ei gofio yn dda :—"Ei fod yn bregethwr angerddol, gwell na neb a glywodd erioed." Dywedai ei nai, y Parch. Michael Roberts, am dano, yr hwn a gafodd gyfleusderau i wrando llawer arno, ei fod ef yn barnu yn ol yr holl hanesion a gawsai gan yr hen bobl am effeithiau gweinidogaeth Daniel Rowlands, mai pregethu Robert Roberts oedd yn dyfod agosaf ato mewn nerth ac effeithiolrwydd, o'r eiddo neb oedd wedi cyfodi yn Nghymru. Ac â hyn y cytuna yr holl dystiolaethau sydd ar gael am dano mewn traddodiad ac mewn ysgrifen.
Un o'r dywediadau cryfaf o'r cwbl am bregethu Robert Roberts ydoedd yr eiddo y Parch. Ebenezer Morris, yr hwn oedd ei hunan, fel y mae'n hysbys, yn un o'r pregethwyr mwyaf nerthol a welodd Cymru erioed. "Rywbryd," meddir yn Nghofiant Mr. Ebenezer Morris, (ac adroddir yr un hanesyn gan Dr. Thomas, wedi ei glywed gan Mr. Roberts ei hunan), "pan yr oedd y diweddar Barch. William Roberts, Amlwch, ar gyhoeddiad yn sir Aberteifi, yr oedd Mr. Morris wedi myned i'w gyfarfod, i'w arwain i'r Tŵrgwyn; ac ar y ffordd, efe a ddywedodd wrth Mr. Roberts: Pe buaswn heb glywed Robert Roberts, buaswn heb y syniad sydd genyf am ogoniant y weinidogaeth:"" (Cofiant: tu dal. 65). Yn yr un Cofiant, sonir am dro nodedig pan oedd y ddau bregethwr mawr yma wedi eu nodi i bregethu gyda'u gilydd ar yr un awr mewn Cymdeithasfa. Wrth son am Mr. Ebenezer Morris fel un hynod rydd oddiwrth eiddigedd at enwogrwydd ei frodyr, "ond yn eu parchu, eu mawrhau, a'u mwynhau yn ddirfawr," à yr ysgrifenydd yn mlaen i ddangos hyny yn y geiriau canlynol:—"Yr oedd Robert Roberts, o Glynnog, wedi dechreu pregethu flwyddyn o flaen Ebenezer Morris; ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi dawn seraphaidd Robert Roberts yn fwy nag efe. Mewn Cymdeithasfa yn Nolgellau, yr oedd y ddau wedi eu nodi i bregethu yr oedfa ddeg ar yr heol o flaen y gwesty