a elwir yn awr yr Angel. Yr oedd Robert Roberts yn pregethu yn gyntaf, ac yr oedd ei bregeth yn effeithio yn angerddol ar ei holl wrandawyr, ac nid ar neb yn ddwysach nag ar y pregethwr oedd i sefyll i fynu ar ei ol. Wedi i Roberts ddibenu, ofer oedd ceisio gan Mr. Morris bregethu y pryd hwnw. Dywedai, Nid âf ddim i ddiffodd nac i oeri yr argyhoeddiadau mawr a wnaed trwy bregeth fy anwyl frawd. Gweddiwn."" (Cofiant: tu dal. 65). Clywsom fod y Parch. Ebenezer Richards, Tregaron, yn sylwi yn Nghyfarfod y Pregethwyr mewn Cymanfa yn y Bala rywbryd ar ol marwolaeth Robert Roberts, "Nid yw yr awdurdod a feddai ein tadau genym ni. Mae yn rhaid i ni gael cunstabliaid i gadw rhywrai yn y dyrfa ar y maes mewn trefn; ond buasai un edrychiad o eiddo Robert Roberts, Clynnog, yn ddigon i rwymo yr holl dorf mewn difrifwch," ac yna ei fod wedi gwneyd cyfeiriad effeithiol at yr oedfa ryfedd o'i eiddo y sonir am dani uchod.
Adroddir hanesyn tarawiadol am dano mewn cysylltiad â'r Parch. David Jones, Llangan, yr hwn sydd yn dangos nid yn unig nerth gweinidogaeth Robert Roberts, ond hefyd ysbryd grasol ac efengylaidd Mr. Jones. Gwelir yn y Cofiant mai wrth wrando Mr. Jones, Llangan, yn pregethu ar ganol dydd teg yn yr haf yn Brynyrodyn, sir Gaernarfon, yr argyhoeddwyd Robert Roberts, pan yn llange un-ar-bymtheg oed. Yn mhen naw mlynedd ar ol hyn y dechreuodd bregethu. Rywbryd, pan wedi dyfod i boblogrwydd rhyfeddol, yr hyn yn wir y daethai iddo yn fuan iawn wedi dechreu pregethu, yr ydoedd mewn Cymdeithasfa yn rhywle yn y Deheudir. Enwyd ef i bregethu gyda Mr. Jones, Llangan, prydnawn neu nos dydd cyntaf y Gymdeithasfa. Dywedir fod Robert Roberts wedi pregethu gyda llewyrch a grym anarferol nes gorchfygu yr holl gynulleidfa. Ar ei ol cyfododd Mr. Jones, a dygwyddodd fel y dygwydd yn fynych ar ol effeithiau grymus gyda'r bregeth gyntaf-fod yr ail bregeth braidd yn drymaidd a dieffaith. Boreu dranoeth, cynhelid Cyfarfod neillduol Cyfarfod y Pregethwyr, y mae'n debyg, wrthynt eu hunain. Mater y Cyfarfod hwn oedd hunan. Tra yr oedd amryw o'r brodyr yn traethu ar y drwg a'r perygl o fod egwyddor hunanol yn ein llywodraethu gyda gwaith yr Arglwydd, sylwid fod Mr. Jones yn aflonydd,