Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel dan rhyw gynhyrfiadau mewnol, yn codi ac yn eistedd, ac weithiau yn cerdded yn ol ac yn mlaen hyd lawr y capel. O'r diwedd, gofynodd y Llywydd: "Yn awr, Mr. Jones, dywedwch chwithau dipyn ar yr Hunan yma." Atebai yntau yn gyffrous :-"Na, 'wedaf fi ddim 'nawr: ond ewch chi 'mlân, frodyr anwyl! Ewch yn 'mlân, deliwch ati, ymosodwch arno, peidiwch ei arbed-waith fe fu agos iddo'n lladd I neithiwr, wrth wel'd Robin bach o'r North" wedi myn'd gyment tu hwnt i fi!"

Y mae pob tystiolaeth mewn llafar ac ysgrifen yn unfryd. am ddysgleirdeb a nerth annghymharol gweinidogaeth Robert Roberts. Siaradai yr hen bobl am ei bregethu yn yr iaith gryfaf y gallent ei defnyddio-fel peth digyffelyb; a rhoddent ar ddeall fod ei ddesgrifio i rai nas clywsant ef yn beth anmhosibl. Ac y mae yn hynod fod pob tyst yn ddieithriad yn tystiolaethu yr un modd, fel pe buasent yn anobeithio desgrifio, ac yn gorfod boddloni ar ddyweyd na chlywsant neb erioed tebyg iddo! Pa fodd y mae rhoddi cyfrif am y fath effeithiau? Beth yn y pregethwr oedd yn esbonio y fath bregethu? Nid ydym ni yn proffesu tynu darlun o hono, neu elfenu ei fawredd. Cyfeiriwn y darllenydd am hyny at gynwys y Gyfrol hon-desgrifiadau rhai eraill o hono, a'i leferydd yntau ei hunan, trwy ei bregethau, ei lythyrau, a hyny o'i ddywediadau sydd ar gael. Rhoddwn yn unig rai adgofion o'r pethau a glywsom am dano, ac ychydig feddyliau oddiar y cwbl.

Gellir dyweyd am dano ef yr hyn sydd wir am bawb a wnaethant argraff ddofn ar eu hoes mewn unrhyw gylch, ei fod yn berchen galluoedd naturiol cryfion tu hwnt i'r cyffredin. Yr oedd ei chwaer, Ann Roberts (nain yr ysgrifenydd) yn wraig nodedig am nerth ei synwyr, eangder ei gwybodaeth, a dyfnder ei phrofiad crefyddol. Gwelir desgrifiad helaethach o honi yn Nghofiant ei mhab, y Parch. Robert Owen, Llundain, (Eryron Gwyllt Walia). Y mae lluaws yn fyw sydd yn cofio ei frawd, y Parch. John Roberts, Llangwm. Adnabyddid yntau fel gŵr cadarn yn yr ysgrythyrau, darllenwr a myfyriwr dyfal yn ol manteision y cyfnod hwnw, pregethwr enwog, a gŵr o ddylanwad mawr yn y Cyfundeb; er fod ei fab, y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, o alluoedd a doniau llawer dysg-