Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

leiriach; ac wedi cyraedd enwogrwydd llawer mwy. Y mae gan yr ysgrifenydd gof plentyn am ddau o frodyr Robert Roberts—Hugh a Thomas Roberts. Yr oedd Hugh Roberts, yr hwn a dreuliodd ei oes yn y Ffridd, yr hen gartref lle y ganwyd y tri-ar-ddeg plant, yn hen ŵr crefyddol a charedig, ond heb ddim neillduol ynddo. Yr oedd Thomas Roberts yn byw mewn fferm o'r enw Braich-y-trigwr, yn mynydd y Cilgwyn, cymydogaeth Rhostryfan, tua phedair milldir i'r dê—ddwyrain o Gaernarfon. Daeth y gŵr hwn i gryn gyfoeth: efe oedd perchenog Braich-y-trigwr, ac amryw ffermydd a thiroedd ereill. Maddeuir i ni am grybwyll wrth fyned heibio mor fyw y mae yn dyfod i'n cof, pan nad oeddym ond plentyn o bump i chwe' mlwydd oed, ar ddiwrnod heulog o haf, ein bod yn cael y treat anarferol—tybiem nad oedd neb mor ddedwydd â ni yn yr holl fyd!—o gael myned gyda'n mam a'n modryb, yn nghwmni ein nain, o Gaernarfon i gael treulio diwrnod. yn Mraich-y-drygwr (fel y seinid yr enw yn gyffredin). Yr oedd y brawd hwn i Robert Roberts yn ddyn o alluoedd y tu hwnt i'r cyffredin, yn ddarllenwr mawr, o wybodaeth helaeth, yn ddoniol iawn, yn fyw o arabedd a digrifwch, a'i ysbryd yn llawn o asbri. Merch i Robert Roberts oedd Mrs. Catherine Owen, priod Mr. Rhys Owen, Llandwrog. Yr oedd hithau yn wraig o amgyffred cryf a chrefyddolder dwfn; gorfoleddodd lawer mewn hwyl nefolaidd ar adegau o adfywiad crefyddol. Bu hi farw tuag un mlynedd ar hugain yn ol; a chafodd yr ysgrifenydd ar brydnawn Sabboth, pan yn pregethu yn nhaith Bwlan, y fraint o ymddyddan â hi am ei phrofiad, darllen a gweddio, a chyfranu iddi yr ordinhâd o Swper yr Arglwydd, pan ydoedd ar ei gwely angeu, ychydig cyn ei marw. Yr oedd hi yn wraig nodedig mewn crefydd, ac yr oedd ei gŵr o gyffelyb feddwl. Y mae ganddi fab, Mr. John Owen, (ŵyr i Robert Roberts) yn flaenor galluog a gweithgar er's llawer o flynyddoedd yn eglwys Bwlan; ac y mae ganddo yntau fab —Mr. John Owens o'r India Office—gŵr ieuangc o alluoedd a chyrhaeddiadau uwchlaw y cyffredin, yn llênor da, yn un o aelodau mwyaf gweithgar a defnyddiol eglwys Nassau Street, Llundain, ac yn ysgrifenydd yr eglwys hono, heblaw ei fod yn un o'r dynion ieuaingc mwyaf ei fedr a'i ỳni gyda holl symudiadau gwladgarol Cymry Llundain.