fanteision addysg ag a gawsai efe yn moreu ei oes. hyn sydd yn gyffredin yn effaith diwylliad, ymddengys fel pe daethai yn naturiol iddo ef—arddull gryno, gynhwysfawr (terse); dywed ei feddwl heb gwmpasu afreidiol, heb ormodedd nac aml—eiriaeth, ond mewn mor ychydig o eiriau ag sydd yn bosibl, a'r ychydig hyny y rhai mwyaf priodol. Y mae ei frawddegau yn syml, yn eglur, a chryfion.
Gwelir yn y portread dyddorol a dynodd Eben Fardd o hono sylwadau ar ragoriaethau ei gof, ei barabl, ei lais, ac ar eondra a bywiogrwydd ei ysbryd a'i wynebpryd. Yr oedd y pethau hyn oll yn ddiau yn elfenau mwy neu lai pwysig yn ei boblogrwydd dirfawr.
Ond Gras a sancteiddiodd yr holl alluoedd naturiol i wasanaeth yr Efengyl. Dengys ei Gofiant fod ei argyhoeddiad wedi bod yn un llym a nerthol. Ysgydwyd ef i ddyfnderoedd ei enaid gan "nerthoedd y byd a ddaw." Gwelodd "weledigaethau Duw" drosto ei hunan, fel y prophwydi gynt; ac yna trôdd pob gweledigaeth o Dduw yn ei ysbryd yn genadwri oddiwrth Dduw. Bu yn y sancteiddiolaf, yn y presenoldeb, yn ngolwg y gogoniant Dwyfol; yn edrych ar fawrhydi sancteiddrwydd a chyfiawnder Duw, ac ar ei anfeidrol drugaredd yn Nghrist—yn syllu ar ryfeddodau maddeuant mewn Iawn, ar ddirgelion y "prynedigaeth trwy ei waed ef"—yn syllu mewn ffydd ar "y pethau o'r tu fewn i'r llen," ar y pethau nefol, ac ar sylweddau ofnadwy tragywyddoldeb, nes yr oedd synedigaeth yn aros yn ei lygaid, a dysgleirdeb ar ei wynebpryd byth ar ol hyny. Gwelodd "bethau annhraethadwy." Credwn mai anfynych y bu neb yn byw mewn cymundeb agosach â phethau tragywyddol. Nid yn ymyl angeu yr ydoedd fel hyn yn unig, ond ar hyd ei fywyd gweinidogaethol. Er fod yn naturiol dysgwyl y buasai y sylweddoliad o bethau tragywyddol yn dwyshâu yn ei ddirnadaeth a'i brofiad fel yr ydoedd yn nesâu at y pethau. Yr ydym yn cofio er yn blentyn glywed un hanesyn yn cael ei adrodd gan ein rhieni i ddangos hyn. Pan ar ei wely angeu, trwy fod yn byw yn nhŷ y capel, yr oedd yn clywed y pregethu o'i ystafell wely. Un tro yr oedd rhyw ŵr yn pregethu yn lled ddifater a dieffaith debygid. Wedi iddo ddybenu, edrychai Robert Roberts yn llym, a dywedai