Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth Ꭹ rhai oedd yn yr ystafell: "O! pe byddai y gŵr yna yn y sefyllfa yr wyf fi ynddi yn awr, ac yn gweled pethau byd arall fel y maent yn ymddangos i mi o'r fan yma, nid fel yna y buasai yn pregethu !"

Gras a roddodd y tân Dwyfol oddiar yr allor aur yn ysbryd y pregethwr rhyfeddol hwn, Gras a'i taniodd â chariad Crist, ac â chariad angerddol at eneidiau dynion, ac awydd am eu hiachawdwriaeth. Bedyddiwyd ef mewn tân.

A dyma oedd nodwedd benaf ei weinidogaeth—tân. Hon yw yr elfen gryfaf mewn bod, a bywyd yr holl greadigaeth naturiol ac ysbrydol. Y mae ymchwiliadau gwyddonol y dyddiau hyn yn tueddu yn fwy o hyd i gadarnhau y gosodiad gyda golwg ar y corph dynol, mai "gwres ydyw bywyd ac mai oerni yw marwolaeth." Gwres o bosibl yw y bywyd meddyliol uchaf. Dywed Lord Lytton mai nid y gwahaniaeth rhwng talent ac athrylith ydyw fod mesur mwy o ddealltwriaeth, neu alluoedd cryfach o feddwl yn perthyn i'r olaf, ond mai nod gwahaniaethol athrylith yw calon fawr, eang, danllyd fod gwres y galon hyd yn nod yn creu meddyliau newyddion—tân angerddol y galon yn melltenu "yn oleuni trwy ystafelloedd y rheswm. Ac y mae hyn yn wir am y bywyd ysprydol. Tân Duw ydyw, yn wres yn y serchiadau ac yn oleuni yn y deall, nes gosod holl olwynion y peiriant i droi mewn ufudd—dod a gwasanaeth. A'r tân hwn mewn ffurf arbenig ac mewn angerddoldeb cryfach yw yspryd y weinidogaeth. Dyma oedd profiad Jeremiah: "Ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymattal, ac ni allwn beidio." Pan oedd eisieu ail—enyn dawn Duw yn angel eglwys Laodicea, dyna swm cynghor yr Arglwydd Iesu iddo: "Bydded genyt zel"—neu Bydded genyt dân." Y tân oedd wedi myned yn isel, bron myned allan, "yn barod i farw;" ac felly yr oedd y tŷ yn myned yn afiach a'r gwaith yn sefyll. Y mae angelion Duw ar y ddaear, fel yn y nefoedd, i fod yn fodau tanllyd: y mae Efe yn gwneuthur "ei weinidogion yn dân fflamllyd."

Fel hyn y tystiai ei gyd—weinidogion ac eraill a'i hadwaenent am Robert Roberts: ei fod "fel rhyw lewyrch tanbaid yn ffurfafen yr eglwys, ac fel angel tanllyd yn ehedeg yn nghanol y nef." Gelwid ef yn "Seraph," yn