Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"bregethwr seraphaidd." Yr ydoedd fel mynydd tanllyd, yn bwrw allan ufel llosgedig o fygythion y Beibl, nes y byddai anystyriaeth y wlad yn cael ei ysu o'i flaen. Bryd arall tywynai fel haul mewn goleuni a gwres angerddol, nes tanio miloedd o galonau mewn cariad a mawl. Force ysbrydol mawr ydoedd a ysgubodd trwy ein gwlad. Yr oedd llinell Dewi Arfon am y Parch. John Jones, Talsarn, yn ddarlun o'r fath gywiraf am R. Roberts hefyd:—

"Mawr ŵr Duw—rhoes Gymru ar dân."

Heblaw galluoedd naturiol cryfion, duwioldeb dwfn, a doniau ac ysbryd y weinidogaeth mewn mesurau annghyffredin, rhaid chwanegu llafur dyfal yn mhlith elfenau nerth gweinidogaeth Robert Roberts. Y mae llafur yn amod pob math o lwyddiant yn y byd hwn, tymhorol ac ysprydol, dirgel a chyhoedd. Diau fod ysbryd y weinidogaeth wedi ei feddianu mor lwyr, a bod ei ymsyniad am bwysigrwydd ei hamcanion yn gyfryw, fel y teimlai fod angenrhaid wedi ei osod arno i beidio arbed ei hunan mewn llafur i barotoi saethau llymion i glwyfo, ac i lynu yn nghalonau gelynion y Brenin. Bu yn ddiwyd i lenwi ei gawell saethau â hwynt. Llafuriodd yn galed i barotoi ymborth iachus er porthi praidd Duw â gwybodaeth ac â deall yn athrawiaethau mawr yr efengyl, ac i gymysgu melyswin yr addewidion i adfywio ysbrydoedd y pererinion lluddedig, pan ar ddiffygio weithiau yn ngwres profedigaethau, ac wrth deithio y manau geirwon ar y ffordd. Fel y canodd Dewi Wyn yn ei Farwnad iddo :

"Y da weinidog dianwadal,
Wyn Duw arweiniodd drwy dir anial,
Ei ddiadell a ddiododd,
Ac â gwybodaeth deg e'i bwydodd."

Gwelir ôl ei lafur yn ei gydnabyddiaeth ryfeddol â'r Ysgrythyrau. Nis gallem lai na synu wrth y profion a geir yn ei Bregethau o eangder a manylrwydd ei wybodaeth yn nghynwys y Gair sanctaidd. Y Beibl yw y llyfr i'r Cristion ac i'r pregethwr. Felly y mae yn amlwg y bu iddo yntau. Ond yr oedd efe, fel pob dyn sydd o ddifrif yn llafurio yn y Beibl, yn llafurio i ddarllen ac i ddeall pob llyfr arall o fewn ei gyrhaedd a allai fod yn gynorthwy iddo i ddeall y Beibl. Er na chawsai ond ychydig o fanteision addysg