Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

foreuol, llwyddodd trwy lafur diwyd i gyrhaedd mesur lled dda o wybodaeth o'r iaith Seisonig, fel ag i allu gwneyd defnydd da o weithiau yr hen dduwinyddion. Sylwa y darllenydd ar un frawddeg Seisonig lled hir a ddyfynir ganddo yn un o'i Bregethau. Gellid casglu mai duwinyddiaeth y Puritaniaid oedd prif fwn-glawdd ei efrydiaeth ef, a'i frawd Mr. John Roberts, Llangwm, yr un modd, fel holl brif bregethwyr y cyfnod hwnw. Ond rhaid chwanegu yr hen ddiareb: "A Gair Duw yn uchaf." Os cymer y darİlenydd y drafferth i droi i'r holl gyfeiriadau Ysgrythyrol yn ei bregethau, heblaw y lleoedd y mae yr adnodau yn cael eu dyfynu, credwn y tâl yn dda iddo. Os teimla yn debyg i ni, nis gall lai na rhyfeddu at briodoldeb a phrydferthwch yr ymadroddion Ysgrythyrol i osod allan y gwirioneddau yr ymdrinir â hwynt; ac at y prawf a geir ynddynt o fanylrwydd ei gydnabyddiaeth â'r Beibl, gan eu bod yn fynych yn adnodau annysgwyliadwy, ac fel blodau prin a gwerthfawr, wedi eu casglu o lwybrau mwyaf anhygyrch y datguddiad dwyfol. Eglur yw ei fod yn “myfyrio ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn yn aros," nes yr oedd "ei gynydd yn eglur i bawb." Yr oedd "ei ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd," ac yr oedd "yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos." Collai lawer ar ei gwsg i ddarllen a gweddio. Yr oedd yr hyn a ddywedai Eryron Gwyllt Walia yn ei Farwnad ragorol i'w fam, sef chwaer Robert Roberts, am dani hi fel Cristion, yn wir am ei brawd fel pregethwr a Christion :

"Hwyr arosit lawer noswaith wedi'n fyned oll i'n hûn,
Gyda dwyfol Air y Bywyd - grasol 'wyllys Tri yn Un;
Ynddo 'roedd dy holl serchiadau, ynddo profaist lawer pryd
Gynydd yn yr adnabyddiaeth-newydd nerth i deithio'r byd."[1]

Ond nid llafur y deall yn unig oedd yr eiddo ef, ond llafur calon ac ysbryd-" llafur enaid" fel yr eiddo ei Waredwr mewn gradd fechan. Yr oedd Robert Roberts yn un o'r dynion mwyaf mewn gweddi. Daeth y dystiolaeth i lawr oddiwrth ei deulu a'i gyfeillion agosaf, y rhai oeddynt yn gwybod hanes ei fywyd mewnol, y byddai ar ryw adegau neillduol, mewn ing ac ymdrech meddwl, mewn gruddfanau

  1. Cofiant a Gweithiau Barddonol y Parch. Robert Owen, Llundain, (Eryron Gwyllt Walia): tu dal. 50.