Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unig yr oedd yn pregethu, ond yr oedd efe ei hunan yn bregeth. Byddai y llais, yr osgo, pob ysgogiad, pob edrychiad yn pregethu. Elai yr holl ddyn yn bregeth fyw. Byddai yn ddyn ar dân.

2. Dychymyg cryf. Tybiwn y ceir fel rheol fod dychymyg cryf, yn gystal a'r hyn a enwyd o'r blaen—teimlad angerddol, yn nodweddu pregethwyr mwyaf pob gwlad ac oes, o Chrysostom, pregethwr mawr yr Eglwys Foreuol, at brif bregethwyr Ffraingc a Prydain yn y ddwy ganrif ddiweddaf. Y mae y nodwedd hwn mor amlwg a dim—y mwyaf amlwg o bobpeth feallai—yn ngweinidogaeth Robert Roberts: dychymyg o nerth annghyffredin, nid yn unig mewn gallu greu, ond hefyd i bortreadu y creadigaethau; dychymyg o nerth dramatic rhyfeddol, yn gallu sylweddoli gwirionedd neu olygfa yn rymus iddo ei hun, ac hefyd yn gallu ei gwisgo ei darlunio, nes ei gwneyd yn sylwedd byw i'r gynulleidfa. Ac nid pan yn darlunio golygfa gyffrous, neu pan yn defnyddio cymhariaeth farddonol, y deuai nerth y gyneddf hon i'r golwg. Rhoddai ei delw ar y brawddegau a'r geiriau cyffredin. Parai i'r geiriau mwyaf syml oleuo yn gryfach. Yn ngrym y dychymyg hwn, fe geid nid yn unig ambell ffenestr ardderchog o gymhariaeth, ond gwneid y muriau eu hunain yn dryloewon, nes y byddai y bregeth fel Palas Grisial, a goleuni o fyd arall yn tywynu drwy bob man ar y rhyfeddodau dwyfol oddimewn, y rhai oeddynt yn cael eu dangos i'r tyrfaoedd synedig.

Ac am ei fod wedi "gwybod ofn yr Arglwydd" ei hunan —"dychrynfeydd yr Arglwydd" ("the terrors of the Lord") mewn argyhoeddiad mor rymus, cymerai y dychymyg sancteiddiedig hwn gryn lawer o'r ffurf echryslawn neu ofnadwy (tragical), bron yn debyg i'r desgrifiadau dychrynllyd a geir yn ngwaith y bardd Dante, neu yn Homiliau y Venerable Bede, yn y seithfed ganrif, o boenau y colledigion, ac yn rhai o bregethwyr y canol oesoedd wedi hyny. Clywsom ddau flaenor lled enwog ag oeddynt wedi ei wrando eu hunain yn pregethu yr un bregeth, ond mewn lleoedd gwahanol, yn adrodd am dani, yn neillduol un desgrifiad neu ddarlun ynddi, fel un o'r pethau mwyaf arswydlawn a wrandawsant erioed. Y mae y ddau wedi marw er's llawer o flynyddoedd bellach, ac yr oedd y ddau tua phedwar ugain mlwydd oed dybygem yn marw. Un o honynt oedd yr hen flaenor ffydd-