Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lon, tanllyd ei yspryd, o zêl a chariad Apostolaidd―y diweddar Mr. Thomas Glynne Jones, Mostyn. Y llall oedd y diweddar Mr. David Davies, Llanrhaiadr Dyffryn Clwyd. Yr oedd y brawd hwn yn ŵr pell uwchlaw y cyffredin. Meddai synwyr a barn ragorol, gwybodaeth eang mewn crefydd a gwleidyddiaeth, dawn i draethu ei feddwl yn oleu a grymus, egwyddor anhyblyg o ffyddlondeb i'r gwirionedd, ac ar yr un pryd yspryd hynod o foneddigaidd. Ac yr oedd yn ŵr duwiol a defnyddiol dros ben; ac yn garedig a chyfeillgar. Cawsom yr hyfrydwch o aros am wythnos yn ei dŷ, pan yn dyfod i Gymru o Manchester i newid awyr a gorphwys, ryw haf tua deuddeng mlynedd yn ol. A mawr oedd y mwynhad a gaem wrth eistedd gydag ef wrth y tân yn y gegin am tuag awr bob nos, ar ol swper a'r ddyledswydd deuluaidd, yn gwrando arno yn adrodd hanes Ebenezer Morris, John Elias, Dafydd Cadwaladr, ac eraill o'r tadau—eu hymddyddanion a'u pregethau. Yr oedd un oedfa ryfeddol o eiddo Robert Roberts yn fyw iawn yn ei gof. Yr oedd David Davies yn fachgen ieuangc y pryd hwnw, o bymtheg i ddeunaw oed, debygem, yn byw gyda'i rieni yn Henllan, sir Ddinbych. Ac y mae yn debyg fod hyn yn agos i ddiwedd oes Robert Roberts. Cynhelid Cyfarfod pregethu ar ddydd Nadolig yn Llannefydd, ychydig filldiroedd o Henllan; ac yr oedd Robert Roberts, Clynnog, i fod yno. Ac fel yn mhobman, yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a chyrchu rhyfeddol o bob parth i wrando arno. Yny bregeth fawr y cyfeiriwyd ati, yr hon a wrandawodd David Davies yn y cyfarfod hwn, cyffelybai y pregethwr dragywyddoldeb i awrlais (clock) wedi sefyll yn y nefoedd ar haner dydd, ac yn uffern ar haner nos! Wrth ddesgrifio gwlad colledigaeth, dychymygai fod rhywun o breswylwyr y ddaear yn cael caniatâd i ofyn ambell gwestiwn i'r damnedigion. Gofynai i Cain yn fuan wedi iddo fyned yno"Beth ydyw hi o'r gloch yna, Cain ?" Gostyngai ei ben braidd dros astell y pwlpud wrth ofyn. Yna newidiai ei lais, edrychai i fynu, a dywedai mewn tôn hir, lusgedig, wylofus, ac mewn llais annaearol megis o'r beddrod"Haner nos!" Gofyn drachefn yn mhen mil o flynyddoedd : "Beth ydyw hi o'r gloch yna, erbyn hyn, Cain?" Ac yna deuai yr un ateb yn yr un llais anobeithiol—"Haner nos!" Gofyn drachefn i un arall: "Beth ydyw hi o'r gloch yna,