Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Judas?" Yr un ateb yn yr un ddolef o anobaith: "Haner nos!" Ac felly rai gweithiau. Dywedai Mr. David Davies. fod yr effaith yn annesgrifladwy; yr ydoedd fel pe buasai dychrynfeydd y farn a thragywyddoldeb wedi ymaflyd yn mhob enaid oedd yn gwrando. Aeth David Davies adref o'r cyfarfod a sylwodd ei fam, yr hon oedd wedi aros gartref, fod gwedd ei wynebpryd wedi newid; edrychai yn welw a sýn, yr hyn a barodd i'w fam ofyn mewn cyffro iddo—pa beth oedd y mater—a oedd efe yn sâl? Ac yr oedd y cynhyrfiad wedi effeithio yn ddwys ar ei gyfansoddiad; nis gallai na bwytta na chysgu y noson hono: a dywedai y parhaodd yr effaith ar ei iechyd heb wisgo ymaith yn llwyr am rai wythnosau. Dywedai fod adsain y bregeth megis yn llon'd yr ardaloedd am amser ar ol hyn. Yr un bregeth wedi ei gwrando mewn lle arall, ac effeithiau cyffelyb, a ddesgrifid gan Mr. Thomas Glynne Jones.

Rhaid i ni nodi fel "pen ar y pethau a ddywedwyd "heb yr hyn buasai y cwbl yn annigonol i esbonio effeithiau digyffelyb gweinidogaeth Robert Roberts—dylanwadau dwyfol mewn mesurau annghyffredin. Byddai Duw yn tywallt ei Yspryd ar y pryd ar y pregethwr, a thrwyddo of ar y gwrandawyr, nes y byddai y weinidogaeth fel gwynt nerthol yn rhuthro trwy bob enaid yn y lle. Gollyngid y fath ffrydlif o oleuni ar bethau tragywyddol, a gorlenwid enaid y pregethwr â'r fath deimladau angerddol, nes y byddai weithiau megys yn ofni i'w gyfansoddiad bregus ymddryllio dan y pwysau. Am hyny, tröai ambell waith. oddiwrth y gynulleidfa megis at Dduw, fel y gwnaeth unwaith mewn Cymanfa yn Llanerchymedd, a gynhelid gyferbyn â'r Bull Inn, ac amryw weithiau ereill pan y bydda! y nerthoedd mwyaf yn gweithio, gan ofyn—"O Arglwyddi attal attal dy law! nis gallwn ddal dim yn ychwaneg!"

Comet dysglaer ydoedd a ymddangosodd yn ffurfafen Cymru am ychydig amser. Yr oedd ei yrfa fel yr eiddo Ioan Fedyddiwr yn fer, ond o ddylanwad nas gellir ei draethu. Yr oedd "nerthoedd yn gweithio trwyddo." Cyfoded Pen yr Eglwys rai cyffelyb iddo eto yn ein gwlad!