Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT, &c.

[Cyhoeddwyd y byr Gofiant a ganlyn—yr unig un a gyhoeddwyd am y PARCH. ROBERT ROBERTS, gan ei nai, y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, dair blynedd ar ddeg a deugain yn ol, sef yn y fl. 1830, wyth mlynedd ar hugain ar ol marwolaeth gwrthddrych y Cofiant. Gan ei fod allan o argraff er's haner canrif bellach, rhoddwn ef yma yn llawn; yn nghyda'r Wynebddalen a'r Rhagymadrodd, y rhai ydynt fel y canlyn:—

COFIANT, neu ychydig o Hanes
Bywyd a Marwolaeth ROBERT ROBERTS, un o
Weinidogion cymwys y Testament Newydd y'mhlith
y Trefnyddion Calfinaidd, yn ddiweddar o
GLYNOG, yn SIR GAERNARFON,
Yr hwn a fu farw Tachwedd 28ain, 1802,
Yn llawn Deugain Mlwydd oed.
Pwllheli Argraffwyd gan R. Jones, dros y Cyhoeddwr. 1830.

———:0:———

AT Y DARLLENWYR.

Fy Nghydwladwyr a'm Cyfeillion,

Ar ddymuniad llawer o'm perthynasau a'm cyfeillion trwy y Dywysogaeth, a manau eraill, anturiais gyhoeddi hyn o hanes, gan wybod, er byred ac anmherffeithied ydyw, y bydd yn dderbyniol gan ganoedd. Ysgrifenwyd yr hyn a ganlyn mewn tri o lythyrau, sef y cyntaf oddiwrth Richard Jones, o'r Wern, at fy Nhad; yr ail, oddiwrthyf finau at Richard Jones; a'r trydydd, oddiwrth fy Nhad afaf finau; er y gwelwch yn hyn, fel yn aml, yr olaf yn myned yn mlaenaf, fel y teilynga pen gwyn fy Nhad, debygaf; oedwyd yn rhy hir, ond gwell hwyr na hwyrach, Ar fod hyn o hanes yn ddywenydd i hen gyfeillion fy Ewythr, ac yn rhyw ddrych i'w ddangos i'r genedl ieuangc nas adwaenent ef, ac o fendith i ni oll, yw gwir ddymuniad un ag sydd yn ddiffuant yn caru eich llesâd.

Pwllheli, Awst 29, 1829. MICHAEL ROBERTS.]