Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ROBERT ROBERTS oedd fab i Robert Thomas a Catherine Jones, o'r Ffrith—Bala-deulyn, yn mhlwyf Llanllyfni, yn sir Gaernarfon, ac a anwyd Medi 12fed, yn y flwyddyn 1762. Yr ydoedd yn un o driar-ddeg o blant un—dad, un—fam. Pan oedd efe ond ieuangc iawn cafodd ei dad a'i fam eu tueddu i wrando pregethu yr efengyl, ac enillwyd hwy oddiwrth arferion llygredig yr oes a'r ardal lle yr oeddynt yn byw; ac yn fuan ymunasant â chymdeithas y Trefnyddion oedd wedi dechreu yn ddiweddar mewn lle a elwid Buartha, yn mhlwyf Llanllyfni. Yn fuan ar ol hyny dechreuodd ei dad godi addoliad teuluaidd gartref, drwy ddarllen, gweddio, a chanu salm neu hymn; ond bu am ysbaid maith o amser yn arfer darllen ffurf o weddi yn y teulu, cyn dechreu gweddio yn gyhoeddus heb lyfr: y ffurf o weddiau a fyddai yn ei arfer oedd o lyfr gweddiau a roisid allan gan y Parchedig Mr. Griffith Jones, o Landdowror: ond yn ol talm o amser gadawodd y rhai hyn o'r nailldu, ond dygwyd yr addoliad y'mlaen gyda mwy o fywiogrwydd a defnyddioldeb. Wedi hyn dechreuodd ddysgu y plant i ddarllen, y nos ac ar y sabbathau a phan fyddai efe yn myned i addoliad ar y sabbathau, byddai ei fab John (yr hwn oedd yr hynaf o'r plant), yn cymmeryd gofal yr ysgol hyd oni ddeuai ei dad adref: ac ar nos Sabbath byddai yn cymmeryd hamdden i holi pawb am yr hyn a ddysgent, a dysgu catecism iddynt ; ac felly dysgodd Robert ddarllen Cymraeg yn ieuangc. Ar ol i'w frawd John ddyfod at grefydd, ac ymuno â'r eglwys yn ddwy-ar-bymtheg oed, yr oedd yn dra gofalus am ei frawd Robert, nes ydoedd tua phedair-ar-ddeg oed; yna dechreuodd ymadael oddi tan ofal a hyfforddiadau ei frawd, a myned i ganlyn cyfeillion oedd gyfoedion iddo, pa rai oeddynt yn dra ofer eu hymarweddiad, nes myned o hono yntau yn ddibris a gwyllt—i ddilyn pob math o gampau a chwareuon ofer ag a allent hwy gyrhaedd, yn ol eu hoedran a'u hamgylchiadau; yn ganlynol, anhawdd iawn a fyddai cael Robert at ei lyfr, nac i wrando pregethau, er pob gofal a diwydrwydd llafurus a arferid i'r dyben hyny. Pan oedd Robert yn un-ar-bymtheg oed, cafodd ei frawd John ganddo ddyfod gydag ef i wrando ar y Parch. Mr. Jones, o Langana, yr hwn oedd y pryd hyny yn