Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfod i sir Gaernarfon i bregethu; a'r lle yr oedd i fod y pryd hyny a elwir Bryn-yr-odyn, yn lled agos i Gaernarfon. Yr oedd ei frawd yn dra gofidus wrth ei weled yn dyfod gydag amryw gyfeillion gwamal, dan chwareu a chellwair yn bur afreolus; ac wedi dyfod i'r lle, ar ganol dydd teg yn yr hâf, a lluaws o bobl wedi dyfod y'nghyd, bu yn rhaid i Mr. Jones sefyll allan i bregethu; ac ar gyfer y lle y safai Mr. Jones yr oedd magwyr, neu glawdd cerig, fel ei gelwir, yn lled agos, ac aeth llawer o ieuengetyd gwamal ac a eisteddasant yn rhes ar ben y fagwyr hono: ac ar ol dechreu yr addoliad drwy ddarllen, canu mawl a gweddio, darllenodd Mr. Jones ei destun, Zec. ix. 12, "Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol," &c. Wedi esponio ar y geiriau, fel yr oeddynt yn perthyn i'r genedl Iuddewig pan eu llefarwyd, ac hefyd eu bod yn golygu y genedl Iuddewig, yn eu sefyllfa bresenol megis carcharorion gobeithiol; ac y daw amser i'w troi i'r amddiffynfa, er iddynt yn hir wrthod Crist y wir amddiffynfa;—yna y llefarodd yn enwedigol ar dri phen—carcharorion; amddiffynfa; troi i'r amddiffynfa. Soniodd am amryw fath o garcharorion, a'u caethiwed caled, cadwynau trymion, eu gwasanaeth ffiaidd, eu meistr creulon, a'u diwedd echryslon mewn carchar anobeithiol ac os yn mlaen yr â pechaduriaid, nes myned yno, na ddeuai neb byth i'w galw i ddychwelyd; ond ei fod ef y diwrnod hwnw yn eu galw i'r amddiffynfa, sef at Grist. Yna dangosodd på fath amddiffynfa yw Crist, a'r rhagorfraint o ddyfod ato: a daeth tywalltiadau helaeth o arddeliad ar yr hen efengylwr mwynaidd, nes oedd y dorf, gan mwyaf, yn ymdoddi mewn dagrau, a'r lleill mewn syndod, na nemawr heb ryw effeithiau ymddangosol arnynt. Yn hyn fe welai John ei frawd Robert wedi eistedd ar lawr, ac yn ymddangos fel pe buasai yn bur sal. Ar ol dibenu y cyfarfod, aeth John yn ddioed i chwilio am ei frawd, ac wedi bod am ychydig amser yn edrych oddiamgylch am dano, a methu ei gael, efe a'i gwelai yn mhell ar y ffordd tuag adref, yn unig wrtho ei hun: meddyliodd drachefn mai rhyw anhwyldeb corphorol oedd arno; ond dranoeth gwelai ryw olwg sobr iawn arno, fel pe buasai yn dra isel a digalon, ac ôl wylo trwm arno; gofynodd ei