Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn perthyn i'r gymdeithas neillduol yn Bryn Engan. Bu yn y lle uchod tua phum' mlynedd, onid un tymhor y bu mewn lle arall a elwid y Cae Hir; a dychwelodd i Gefn Pencoed eilwaith, a bu yno am flwyddyn ychwaneg. Ar ol hyn cyflogodd i fyned at John Prichard, o'r Coed-cae-du, yn yr un gymmydogaeth, i fod yn ben gwas, neu hwsmon, fel y gelwir yn gyffredin: yr oedd efe erbyn hyn wedi dyfod yn ddyn tàl, cryf, bywiog, a gweithgar, ac o gyneddfau bywiog, a chof cryf anarferol. Ysgrifenai y rhan fwyaf o bob pregeth a glywai, ar ol eu gwrando: nid oedd yn ysgrifenydd digon cyflym i ddilyn areithiwr; ond Ꭹ dull a fyddai yn arfer oedd myned yn uniongyrch o'r oedfa i rywle a welai yn gyfleus—cysgod gwrych neu goed, os byddai lle felly i'w gael—ac ysgrifenu. Y pryd hyny byddai llawer yn myned o sir Gaernarfon i Langeitho, yn sir Aberteifi, i wrando ar y Parchedig Mr. Daniel Rowlands, ac yn mhlith eraill byddai yntau yn myned mor fynych ag y gallai, a phob amser yn ysgrifenu y pregethau a wrandawai yno. Dywedwyd wrth Mr. Rowlands ei fod wedi ysgrifenu ei bregeth ef; amheuodd yntau yn fawr, gan ddywedyd, "ni wnaeth neb erioed eto;" attebwyd, yn wir, syr, y mae yn debyg iawn;" "wele, dyro ei gweled, boed a fyno?" Yna yntau a'i dangosodd yn wylaidd a gostyngedig; a phan ei darllenodd dywedodd, “mi a welais lawer o ladron yn dyfod i Langeitho erioed, ond tydi yw y lleidr goreu a welais erioed." Dros y saith mlynedd, fel y nodwyd, y bu yn gwasanaethu, nid oes pethau anghyffredin wedi bod mewn perthynas iddo; ond amryw waredigaethau hynod a gafodd am ei fywyd, yn enwedig tair gwaith; un wrth gynorthwyo ceffyl i'w gael o ffos ddofn; un arall, cael ei gipio gyda'r cenllif, mewn afon; un arall, drwy syrthio o bren tan ei draed, o daflod, a disgynodd pren gydag ef i lawr, ac mor agos ato a darfod iddo dori cudyn o'i wallt. Effeithiodd y rhai hyny yn ddwys ar ei feddyliau, nes ei wneud yn ddifrifol mewn perthynas i gael grym duwioldeb: nesaodd hyny ef at ddarllen, ac i fwy o fanylrwydd wrth ddarllen; hefyd wedi iddo ddyfod i'r Coed—cae—du a enwyd, yr oedd ganddo gyfleusdra rhagorol i ddarllen, wrth fod y tŷ allan, lle y byddai yn cysgu, wrth y drws, a byddai ganddo yntau