Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganwyllau ei hun: ac ar ol swper, bob nos, arosai yno weithiau oriau i ddarllen, cyn myned i'r gwely. Pan oedd ei frawd John yn ymweled âg ef unwaith, cynghorodd ef i beidio aros yn rhy hir ar ei draed, rhag ofn canlyniadau niweidiol ond yr atteb oedd hyn, "nid oes genyf fi fodd yn y byd i roddi heibio darllen, gan y fath bleser wyf yn gael yn y Beibl. Y dull sydd yma o gyflawni addoliad teuluaidd yw, darllen y Salmau perthynol i'r diwrnod, wrth y dydd o'r mis, yn ol y drefn yn y llyfr Gweddi Cyffredin." Gofynodd ei frawd iddo, "A fyddwch chwi felly bob dydd ?" "Byddwn," ebe yntau, "bob dydd, hwyr a boreu, er na gwair nac ŷd, gwlaw na hindda; bydd fy meistr a Richard ei fab yn darllen bob yn ail adnod, ac y mae y gofal yn cael ei roddi arnaf, nad esgeulusir mewn un modd, er dim: ac y mae wedi bod o fendith fawr i mi. Yr wyf yn cael y fath olwg newydd ar fawredd Duw: manylrwydd ei ragluniaeth: teyrnas ei ras: cyflwr dyn annuwiol, a chyflwr plant Duw; profiad dyn duwiol-weithiau mewn profedigaethau oddiwrth Satan, byd, a chnawd; ac weithiau yn mwynhau heddwch a chysuron o wedd wyneb yr Arglwydd, fel pe b'ai nefoedd ar y ddaear; byddaf yn rhyfeddu pa fodd yr oeddwn yn darllen o'r blaen; ni ddysgais i ddarllen yn dda erioed o'r blaen, nes y daethum. yma i ddarllen y Salmau." Dechreuodd ei afiechyd arno yn beswch trwm anarferol; ond yr oedd ei feistres, Margaret Evans, yn bur gyfarwydd ag amryw fath o ddail, ac nid arbedodd draul na thrafferth tuag at wneyd llesâd iddo; a llwyddodd yn rhyfedd yn ei hamcan, canys gwellâodd yn dda oddiwrth y peswch oedd arno; ond ar ol hyn trodd yn boen i'w aelodau, ac yn gryd-cymalau i'w esgyrn, ac yntau yn llesgâu. Oddeutu yr amser hyn yr oedd wedi ammodi priodi, a bu yn ymgynghori âg amryw, ac â'i frawd yn neillduol, ar yr achos, sef pa un a oedd ei afiechyd yn ddigon o achos iddo dori ei ammod priodas; ond barnwyd nad oedd yn achos y gallai fod yn rhydd o'i herwydd, yn enwedig os nad oedd y ferch ieuangc yn foddlon; ac annogwyd ef i gyflawni mor fuan ag y gallai, yn ol cyfaddasrwydd amgylchiadau, ac felly y gwnaeth. Ond cynnyddu a wnaeth ei afiechyd nes ei analluogi at ei waith, a gorfod myned i'r gwely, ac yno y bu efe am naw