wythnos, dan boenau trymion iawn trwy ei holl gorph, heb ddim esmwythder nos na dydd; ni arbedwyd ymofyn â meddygon ac arfer moddion, etto nid atebasant nemawr neu ddim dyben; ond cafodd un cynghor a wnaeth beth lles iddo, sef cymeryd chwys, ac ar ol hyny cymeryd ŵy a rum ddwywaith y dydd, am ryw ysbaid o amser. Y mae yn debyg fod hyn wedi bod yn foddion i'w gynhesu ac i'w boenau leihau; ond erbyn dechreu ceisio codi, yr ydoedd golwg ryfedd arno. Yr oedd ei holl gymalau yn ymddangos megis wedi myned o'u lle; ac hyd y nod ei gefn wedi crymu, a'i gorph yn fyrach o agos dair modfedd nag y buasai pan oedd yn ei iechyd, ac felly yr arosodd tra y bu byw; ond uniawnodd a chryfhaodd cymalau ei aelodau i raddau mawr. Tua'r amser hwnw daeth gŵr ieuangc adref oedd feddyg, ac wedi bod ar led yn teithio gwledydd tramor— -un o ardal Pen-y-morfa. Pan aeth Robert i ymofyn âg ef mewn perthynas i'w iechyd, edrychodd yn sýn arno, a gofynodd, "pa beth oedd ei waith?" dywedodd yntau, mai gwasanaethwr a fuasai, tra y gallodd: gofynodd, "a fuasai yn arfer llawer â moddion meddygon?" attebodd, "ei fod."—" Wele," ebe y gŵr, "chwi a ellwch gymeryd llawer etto, ond ni wna llesâd i chwi; nid oes neb yn deall eich clefyd." Gofynodd Robert, 66 a welsai efe neb yr un fath ag ef?" "do," ebe yntau, "gwelais hen filwyr, wedi bod yn hir yn gorwedd allan, yr un fath a chwi, wedi cael gormod o oerfel; a gwelais rai wedi bod yn hir mewn gwaith toddi mettelau, wedi cael gormod o wrês, wedi myned yn debyg i chwi; a gwelais rai wedi bod dan ormod trallod meddwl, wedi myned yn gyffelyb. Y mae eich clefyd chwithau wedi dyfod oddiwrth un neu ddau o'r pethau hyn. Ond mi a roddaf gyngor i chwi yn rhad, gan eich bod yn ddyn tlawd. Y mae yn awr yn myned at yr hâf, edrychwch am ryw ffrwd, lle y caffoch y dwfr claiaraf; cronwch bwll a fyddo o ddyfnder at eich gên, yna ewch iddo yn ddisymwth, ac arhoswch hyd nes y clywoch eich hun yn dechreu oeri, yna deuwch allan a gwisgwch am danoch mor fuan ag a alloch; a pharhewch am fis i wneud hyny, bob dydd pan y byddo yn deg, ond na wnewch os bydd yn oer." Felly efe a wnaeth, a chafodd lesâd mawr; esmwythâodd
Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/33
Gwedd