na llawer, pa fodd i drin a chymhwyso dail, ac, megis y cyfarwyddodd yr Arglwydd, trwy Esay y prophwyd, feddygon Hesecia i wneuthur swp cymmwys at ei gornwyd; felly, er yn ddirgelaidd, cyfarwyddodd yr Arglwydd fy mam i gasglu a defnyddio amryw ddail, a'u berwi, weithiau yn nghyd â rhyw gig, a rhoddi yr iscell i Robert i'w yfed, a'r dail iddo gyda'r cig i'w bwyta, weithiau yn eu malu a'u rhoddi iddo mewn rhyw ffordd arall; y dail a fyddai yn ddefnyddio fwyaf oedd Cwmffri a Danadl poethion. Cesglais lawer basgedaid o honynt, a dygais i fy mam i'w cyfaddasu fel y crybwyllwyd uchod. Ambell un lled ddiystyr a ddywedai wrthi, ei bod yn cymmeryd gormod o drafferth; attebai, (yr wyf yn cofio ei geiriau yn dda), "fe dâl Robin ei ymgeleddu; a gwir oedd yr ymadrodd. Er na lwyddodd y moddion gwael hyn, na dim arall, i'w adferu fel y bu o'r blaen, etto, fe lwyddodd iddo gael gradd ryfedd o iechyd, yr hyn oedd megis bywyd o feirw; er i rym ei gystudd anffurfio agwedd ei gorph, ac yn yr agwedd hwnw y llafuriodd y'ngweinidogaeth ei Arglwydd bymtheg mlynedd, dan arddeliad tu hwnt i nemawr yn ei oes, nes o'r diwedd i'r naill afiechyd esgor ar un arall, sef y Graianwst a'r Gareg, yr hon a orchfygodd holl ymdrech anian, ac a barodd i'r seren ddysglaer hon fachludo.
Yr oedd yn beth cyffredin y pryd hyny, fod amryw o grefyddwyr o bob parth o Gymru yn mynych deithio i Langeitho, i wrando Mr. D. Rowlands yn pregethu ; felly, y'mhlith cyfeillion sir Gaernarfon, yn enwedig Bryn Engan, yr eglwys yr oedd yn perthyn iddi, byddai Robert Roberts, yn myned ambell dro. Rhyw bryd (fel y clywais) ond amryw flynyddau cyn ei alw i'r weinidogaeth, dywedodd rhai o'r cyfeillion wrth Mr. Rowlands am dano, eu bod yn gobeithio y gwnai yr Arglwydd ryw ddefnydd o hono yn y gwaith, a'i fod yn debyg o wneuthur pregethwr. "Och fi! och fi!" ebe yr hen barchedig Rowlands, "ni wneiff bregethwr byth, oni chaiff dro ar ei gyflwr." Ni wn i ddim am hyn ond trwy glywed: eithr am iddo ef gael tro ar ei gyflwr, yr wyf fi yn dyst o hyny, yn ol y prawf a gefais i o hono yr amser uchod: er na wyddwn i y rhawg gwedi hyny pa beth oedd tro ar gyflwr, etto yr oedd ym-