weliad yr Arglwydd â Robert Roberts mor eglur, fel yr oeddwn i yn ddiddadl fod tro o'r nef arno.
Pan oedd Robert Roberts (mi a feddyliwn) o dair i bedair ar hugain oed, yr ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol âg eglwys a chymydogaeth Bryn Engan. Parodd i'r fath dywalltiadau ddisgyn o'r nef ar blant a phobl ieuaingc yr ardal, ynghyda llawer o hen broffeswyr hefyd, ac yn eu plith Robert Roberts, nes oedd adsain cân a moliant yn llenwi yr ardaloedd, nos a dydd. Yn hyn ofnodd fy mam yr âi ei holl lafur, gyda'i physygwriaeth yn ofer. Bu yn ei gynghori yn ddwys i beidio a gwaeddi gormod, a gochel lladd ei hun yn neidio; onidê, y byddai yn debyg o yru ei hen gymmalau afiach o'u lle. Nid oes mo'r help am dani, meistres," meddai Robert, "Nichollwyd gwaed y groes erioed am ddim i'r llawr." "Gwir, gwir,' meddai hithau, "gwir hefyd, ni chollwyd mo hono i beri i neb waeddi a lladd ei hun." Eithr er nac afiechyd na chyngor, nac arbed ei esgyrn, na dim, canu a bloeddio a wnai Robert, ac uchel waeddi "gogoniant," a'i ddagrau yn llif.
Yn yr amser hwn rhoddodd Robert heibio wasanaethu, a phriododd, ac a ymadawodd a'm teulu i; ond cymmerodd dŷ a gardd gan fy nhad, a elwir yr Ynys-galed, ac yno y bu yn byw amryw flynyddoedd. Yma y mae genyf un peth nodedig i sylwi arno, er bod yn alarus genyf ei ddywedyd: sef, mai Robert Roberts oedd y diweddaf ag wyf fi yn ei gofio yn gwneuthur cydnabyddiaeth cydwybodol â'i feistr, am yr amser a fyddai yn ei golli gydag achosion crefyddol, y byddai ei feistr yn golledwr o honynt er y cly wais fod hyny yn beth cyffredin yn moreu y diwygiad hwn; ond anfynych y gwelais, o hyny hyd yn awr, na gwas na morwyn, yn gwneuthur cydnabod o gymaint a diolch; er fy mod yn cofio gyda fy nhad amryw ar ei ol, a chyda minau ddegau o dro i dro. Ac fel y meddyliais lawer gwaith fy mod i yn fwy aflwyddianus yn hyn nac eraill, bum yn ymddiddan am hyny gydag amryw ag oedd brofiadol yn helynt y wlad, fel finau, ond ni chefais i ddim hanes nemawr gwell-ystyried pawb ei ochr ei hun. Os na fydd rhyw ragoriaeth ar eraill, mewn peth mor amlwg, gochelwn y dydd yr esgor y gair hwnw arnom, "y maent