Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn faich arnaf, blinais yn eu dwyn;" ac os blina Duw arnom, baich a blinder a fyddwn i bawb arall; yna, yn ol dywediad Robert Roberts, wrth bregethu ar y gair "Y mae efe yn ei thynu ymaith," "Och! os tyn Duw ymaith, pwy a ddichon gadw i mewn? Gwywodd, gwywodd!"

Er nad oedd Robert Roberts o sefyllfa uchel yn y byd, etto fe ofalodd yr Arglwydd am dano, yn ol ei addewid, fel na bu arno ef na'i deulu eisieu dim; ac a'i haddurnodd â gweinidogaeth oedd yn dwyn ei thystiolaeth gyda hi fod ei phelydrau o'r cyssegr.

Ond i ddychwelyd—ni chymerai gyngor fy mam, yn y berw a'r brwdaniaeth uchod ar holl alluoedd ei natur; ac fe adfeiliodd drachefn lawer yn ei iechyd. Yr oedd ei agwedd fel pe buasai ei holl ewynau, ac amwydyn ei gefn yn crebychu, ac yn yr agwedd grwcca hon y bu fyw yn gorphen ei dymor.

Ond i adrodd i chwi ychydig o'i hanes fel pregethwr yr efengyl. Nid oes dim i'w adrodd yn byn am dano o'r pethau ag sydd yn fawr, ac o fri uchel yn nghyfrif y byd; megis pa le y derbyniodd ei raddau mewn dysgeidiaeth, namyn na thrwy ei ddiwydrwydd yr ychydig amser a allai hepgor yn awr a phryd arall; clywais ef yn dywedyd, mai wrth ddarllen y Salmau perthynol i bob dydd, gyda fy nhad a minau, y dysgodd ef fwyaf mewn darllen Cymraeg o un man; efe a fu ychydig gwedi hyny gyda Mr. Evan Richardson, yn dysgu Saesnaeg; a thrwy y fath gychwyniad tlawd a hwn, daeth mewn ychydig flynyddoedd i gydnabyddiaeth â'r iaith hono, gan belled ag yr oedd yn gallu deall awdwyr mewn duwinyddiaeth yn gyffredin dda. Ac yn yr arfogaeth dlawd hon yr anfonwyd ef yn erbyn y cedyrn: ac nid gan ddyn, na thrwy ddynion, fe brofwyd yn rhy eglur: canys efe a nerthwyd o wendid i wneuthur rhwygiadau yn myddinoedd y gelyn, ac arhôdd ei fwa ef yn gryf, trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob. O ran ei gymmwysderau i'r weinidogaeth, er ei fod, o ran agwedd ei berson yn wael, etto yr oedd ei lais yn glir, a'i barabl yn groyw, ac o gof da; ac er nad oedd yn deall ffugyrau areithyddiaeth na rhesymiaeth ychwaith, etto yr oedd yn eglur i bawb ag oedd yn eu deall, eu bod fel ffrydiau yn tryloywi yn naturiol yn nghymwysder ei eiriau, a phriod-