Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eithr doeth yw Duw. "Yr Arglwydd a'i harweiniodd ef o amgylch, ac a barodd iddo ddeall" profiad Cristion a phrofiad yr eglwys, ynghyd a phrofiad ysbrydol gweinidog yr efengyl, mewn ysbaid ychydig amser, yn well nag ugeiniau sydd yn treulio eu hoes yn mhrif frasder ysgolion penaf y ddaear: ond hynod oedd ef am ddyrchafu dysgeidiaeth, a chwyno ei fawr golled am dani, a chlywais ef yn dywedyd, ychydig cyn ei farwolaeth, nad oedd ef ddim ond yn dechreu gwybod gronyn. Treuliodd rai blynyddau ar y dechreu yn cadw ysgol Gymraeg, yn ardaloedd Eifionydd, yr hon oedd yn cael ei chynal trwy ewyllys da yr amrywiol ardaloedd yn y rhan honno o'r wlad; ac yn y cylchoedd y bu yn cael ei chadw, attebodd ddiben daionus, gyda'r ysgol a'i weinidogaeth yn mhob ardal; ond nid hir y parhâodd yn y dull hwn, canys yr oedd ei iechyd yn rhy fregus i ymgynnal yn y modd yma i gadw ysgol, ac i ufuddhau i alwad y brodyr yn ei weinidogaeth. Eithr fel yr oedd galwad yr eglwysi am ei weinidogaeth trwy holl Gymru yn ychwanegu, hyn, gyda chydsyniad y brodyr yn ei wlad, a'i tueddodd i ymroddi yn hollol i waith y weinidogaeth, yn yr hon y llafuriodd yn ffyddlon a diysgog hyd ddiwedd ei oes. Er ei fod (fel y gallaf ddywedyd) yn yr ysbaid hyny o amser, yn gorfod ymdrechu yn galed ag angau ar ei dir ei hun. Nid hir, wedi ymroddi i'r weinidogaeth fel hyn, y bu byw yn yr Ynys-galed, canys fe agorodd rhagluniaeth ddrws arall iddo, lle y gallai atteb mwy o ddyben; sef, y tŷ oedd yn perthyn i Gapel-uchaf, Clynog; ymwelodd yr Arglwydd a'r hen eglwys farwaidd hono, ac a alwodd ugeiniau yn rhagor atti trwy yr ardaloedd. Ac felly yno y cyflëwyd Robert Roberts a'i deulu, ac yno y bu yn byw hyd ddiwedd ei oes, yn ymgeledd da i'r achos yn mhob ystyr. Yr oedd ei ddefnyddioldeb yn mhob cyfarfod, a'i boblogrwydd yn mhob gwlad, yn nghyda'r arddeliad rhyfedd ar ei weinidogaeth, yn gwneuthur y golled o'i golli yn fawr; a galarus ydoedd gan bawb ag oedd yn caru llwyddiant achos yr efengyl. Ond doeth yw Duw yn ei ffyrdd, ac anolrheinadwy yw ei farnau ef; ac anhawdd, yn fynych, yw dywedyd fod yr hyn y mae yn ei wneuthur yn dda; ond "ti a gei wybod ar ol hyn." Eithr fel y dywed yr Apostol, fod "pob peth yn cyd-weithio er