Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daioni i'r rhai sydd yn caru Duw;" felly gwir a fu hyn mewn perthynas i R. Roberts, canys y mae yn ddiamau genyf i'r Arglwydd fendithio cystudd â chroesau i beri idd ei ysbryd ymestyn yn mlaen yn fwy deffröus gyda y gwaith, ac i beri idd ei enaid dreiddio yn ddyfnach ddyfnach i brofiadau y Salmydd a'r saint; ïe, fel yr oedd y dyn oddi allan yn llygru, yr oedd y dyn oddi mewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd; ac fel yr oedd yn nesâu i ardaloedd angau, a'i gystudd gofidus yn trymhau, yr oedd yn amlwg fod ei ysbryd yn cymdeithasu fwy-fwy â'r nef, megis yr oedd tanbeidrwydd ei weinidogaeth yn profi. Byddai y fath gyflawnder ar amserau o arddeliad yn ymdywallt ar ei weinidogaeth, nes y byddai ei natur yn methu ymgynal dani, a'r bobl yn llefain wrth yr ugeiniau a'r canoedd, fel pe buasai gleddyfau yn eu trywanu, a'u dagrau yn rhedeg fel ffrydiau. Dyma y weinidogaeth y bedyddiwyd Cymru â hi amryw flynyddau; a bydd yn ysgafnach i drigolion Sodoma yn nydd farn nag i'r sawl a'i gwrandawodd, ac a ymgaledodd yn ei herbyn.

Wele, fy anwyl frawd, dyma fi wedi rhoddi hyny a wybum i o hanes R. Roberts, hyd hyny o gydnabyddiaeth amlwg a sicr a gefais i âg ef. Yn fwyaf penodol, dymunaf i chwi nodi'r amserau, a rhyw brif bethau a aeth drosto ef a'i deulu, ag y byddo yn fuddiol i'r darllenydd eu gwybod, pa rai nas gallaf fi eu nodi.

Yn mhellach, rhoddir y darluniad byr, ond gwirioneddol, a rydd Michael Roberts, mewn llythyr at ei gyfaill Richard Jones, am ddull ei lafur gweinidogaethol, fel y canlyn:—

GAREDIG GYFAILL,—Da genyf ddeall am eich ymgais, ar fod gradd o goffadwriaeth i'r oes a ddêl am fy ewythr Robert Roberts. Bu'r peth lawer gwaith ar fy meddwl inau; ond nid oedd genyf ddigon o ddefnyddiau fel ag y gallaswn roddi un hanes trefnus am ei febyd, ieuengetyd, a'i alwad at grefydd ac i'r weinidogaeth. Yr wyf yn meddwl y gall fy nhad, ac y bydd yn llawen ganddo hefyd, roddi ychydig o hanes cyffredinol, os nad manwl, am hyny, yn nghyda phethau eraill. Gallaf finau ychwanegu ychydig at yr hyn a ysgrifenwyd genych chwi, yr hyn a ellwch chwithau ei gyfleu fel y gweloch yn oreu, naill ai