Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nghorph eich hanes, neu mewn nodiad ar ol eich ysgrif eich hun.

Nid oeddwn i ond tua chwech neu saith oed pan y dechreuodd Robert Roberts bregethu; ond yr wyf yn cofio peth am dano tua'r troion cyntaf y daeth i ardaloedd Llanllyfni, gan yr effeithiau a ddilynai ei athrawiaeth, a'r sôn a fyddai am dano mewn canlyniad; gwrandawn inau arno gyda hyfrydwch neillduol, ac yn foreu iawn effeithiai ei weinidogaeth ar bob nwyd ynof, am a wn. Pan oeddwn o ddeg i ddeuddeg oed, dilynwn ef drwy y daith Sabbath, er na gwlaw na thywyllwch, ac ni theimlid oddiwrth y llafur i'r corph, gan yr hyfrydwch a ga'i y meddwl; felly, fel y cynyddais mewn dyddiau, cynyddodd fy nghydnabyddiaeth a'm cyfeillgarwch âg ef, a'm hanwyldeb atto, hyd ddydd ei farwolaeth. Pan yn ymuno mewn cymundeb eglwysig, yn dair-ar-ddeg oed, ac wedi hyny yn dechreu ar y weinidogaeth yn bur ieuange, bu ei ymddiddanion, cynghorion, ac addysgiadau, yn dra llesol i mi. Holai, a chwiliai, a pharai i minau holi fy hun, debygaf i'r gwaelod; a byddai ei ddywediadau fel halen a thân i'r cnawd; eto, ymgeleddai a magai fel y fam dyneraf. Cefais y fraint of gyd-deithio llawer gydag ef, a thrwy hyny cael golwg arno yn ei ymddygiadau dirgelaidd, teuluaidd, cyfeillach, a'i lafur cyhoeddus; ac nid oes genyf ddim i'w ddywedyd am dano, ond, O Gristion dysglaer! O weinidog addas, doeth, tanllyd, a defnyddiol! defnyddiol! Nis gallaf roddi desgrifiad o hono yn fyr yn well na hyn:-Yr oedd o dymher naturiol siriol a chyfeillgar iawn, ac etto gwrol, llewaidd, a didderbyn wyneb; nid oedd ei ddawn mewn gweddi yn gwmpasog a maith, ond yn hynod o fywiog, a gwresog yn ei ysbryd; a byddai yn uniongyrchol a'i afael yn ei neges, ac addewidion Duw trwy y Cyfryngwr, nes y byddai, debygaf, yn anmhosibl i neb o berchen anian ac ysbryd gweddi beidio cyd-weddio gydag ef yn y fan. Yr oedd o ddawn enillgar a buddiol iawn i holi ac egwyddori plant. Yn yr eglwys, yr oedd agwedd effro ei ysbryd, ei wybodaeth helaeth o'r athrawiaeth, ei ofal gwyliadwrus am ddysgyblaeth y tŷ, a'i brofiad dwfn fel Cristion, yn ei wneyd yn dra enwog, buddiol, a defnyddiol yno. Am ei weinidogaeth gyhoeddus, yr ydych wedi dywedyd llawer;