Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y mae yn anhawdd rhoddi desgrifiad o hono, fel y gallo yr oes a ddêl ffurfio barn gywir am dano. Meddyliais lawer gwaith, wrth glywed yr hen bobl yn sôn am yr enwog Mr. Rowlands o Langeitho, mai y tebycaf a glywais i erioed iddo oedd Robert Roberts, yn ol ei radd. Astudiai ei destynau ar amrywiol ganghenau o athrawiaeth, a thynai yr addysgiadau oddiwrthynt i'r manylrwydd eithaf, yn ol y manteision ag oedd ganddo; a llefarai, yn gyffredin, yn drefnus ar y materion y rhagfyfyriai arnynt, ol yn ol. Ond yr hynodrwydd mwyaf arno oedd bywiogrwydd tanllyd ei ysbryd, yn y pethau, wrth eu traddodi; a'r arddeliad, y llewyrch, a'r tywalltiadau a ddisgynai arno ef a'i wrandawyr; a dull ei wynebpryd, mor hollol briodol i'r araeth, nes y byddai yn anhawdd i neb fod heb ryw effeithiau arnynt, y pryd hwnw o leiaf. Gwelais y cynnulleidfaoedd ddegau o weithiau yn wylo, fel nas gwelwn braidd wyneb sych. Os taranu bygythion a melldith y ddeddf uwch ben ei throseddwyr y byddai—taranau, mellt, a dychryn, megis wrth Sinai, a fyddai yno. Os cyhoeddi dyfnion bethau yr athrawiaeth, am ddirgelwch y Drindod, person yr Emanuel, y cyfamod hedd a threfn yr iechydwriaeth, llenwid yr enaid â syndod a gorfoledd. Os mewn hwyl nefolaidd, yn datgan ac yn molianu am radlonrwydd a digonoldeb y gras a ddatguddir yn yr efengyl, yn aml gwneid y galon galed megis llyn dwfr—byddai pechod yn bechod, cyflwr dyn yn druenus, y byd yn, wagedd, Crist oll yn hawddgar, a byw yn dduwiol yn beth dymunol yn ngolwg yr enaid wrth wrando arno; ac nid yn aml y gwrandewais arno erioed heb alaru, wylo, a gradd o orfoledd; ac nis gwelais neb erioed a'r arddeliad mor gyson arno. Etto, byddai yntau yn cael odfaeon llawer caletach, a llai o dywalltiadau weithiau na'u gilydd.

Yn ei flynyddoedd cyntaf llefarai ar destynau unigol, yma a thraw yn Llyfr Duw ; ond yn ei flynyddoedd diweddaf, yr oedd yn fwy arosol yn ei fyfyrdodau a'i lafur mewn rhyw Salm neu bennod, nes myned trwyddi, bob adnod yn olynol. Y lle cyntaf o'r Ysgrythyr i mi sylwi arno yn aros ysbaid i lefaru oddiwrtho, ydyw Heb. xii. 18—24: yna Dat. iv.; ac yna adnodau cyntaf yn Ioan xv, ac Esay xxvi.; yna bu haner blwyddyn, o leiaf, yn y