Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6ed, o Esay; wedi hyny yn yr ail bennod o'r ail Epistol at Timotheus, ac aeth drwy y bennod i gyd; yna Salm cxxxii. Yn ganlynol, llefarodd bregethau neillduol, ar waith yr Ysbryd Glân, oddiar Ioan xvi. 8–11; llefarodd wedi hyny ar y deg gorchymyn, Exod. xx. 1—17; yna bu ysbaid blwyddyn ar Job xxxiii. 14—30. Wedi hyn dechreuodd ar yr Epistolau at eglwysi Asia, a dyna lle y bu ei lafur gan mwyaf am y ddwy flynedd ddiweddaf o'i oes. Llefarodd hefyd ar amryw o'r adnodau cyntaf yn y 53ain o Esay; a'r testyn diweddaf yr ysgrifenodd ychydig nodiadau_arno ydyw Act. xvii. 31, sef gosodiad y farn a'r Barnwr. Felly, heblaw aml destyn y llefarai yn achlysurol oddiwrtho, dyna olwg ar gartrefle ei fyfyrdod a'i lafur gweinidogaethol am y pump neu y chwe' blynedd olaf o'i oes. Felly diweddodd y gwas enwog hwn i'r Arglwydd ei yrfa, yn nghanol ei ddysgleirdeb a'i ddefnyddioldeb, yn gynes yn mynwes eglwys Crist drwy Gymru, ac â galar cyffredinol ar ei ol gan bawb a'i hadwaenai, yn llawn deugain mlwydd oed, wedi bod yn pregethu bymtheg mlynedd. Yn yr ysbaid byr hyn, teithiodd aml waith trwy holl siroedd Cymru; bu yn y brif-ddinas ddwy waith, yn llafurio yn mysg ei gyd—genedl yno: bu amryw weithiau yn Liverpool, Manchester, a Chaerlleon; yr oedd ef yn bresenol yn agoriad capel cyntaf y Trefnyddion yn Manchester, Galangauaf, 1799. Yn nyddiau olaf ei gystudd angeuol, yr oedd ei feddwl yn siriol, ei ffydd yn ddiysgog, a'i hyder yn ddiymod ar y Graig, sef Crist; ac yr ydoedd mor ysbrydol yn ei ymddiddanion, fel ag yr oedd braidd yn ddychryn i gnawd fod yn agos atto; nid yn aml y gwelwyd ar y ddaear enaid mewn cnawd gan debyced i drigolion y nef. Felly, wedi ei gynnal yn ddigwymp hyd y diwedd, efe a hunodd yn yr Iesu, Tachwedd 28ain, 1802. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol; o ba rai y mae dau, sef John ac Ebenezer, wedi meirw yn bresenol. Y mae ei wraig hefyd wedi marw. Ehedodd hithau hefyd ymaith yn siriol, ar ol ei phriod a'i phlant; ond y mae ei ferch a dau o'i feibion yn aros hyd yn hyn.