Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNILLION

A gyfansoddwyd gan JOHN ROBERTS, dranoeth wedi marwolaeth ROBERT ROBERTS;
sef ffrwyth ei fyfyrdod trallodus ar ei daith tuag adref.

WRTH gwrdd a dyrus droion,
Newyddion chwerwon, chwith,
Ac aml faith ofidiau,
A minnau yn eu plith;
Wel, dyma newydd chwerw,
A marw ddaeth ag e';
Symudwyd ROBERT ROBERTS,
Mae yma'n wag ei le.

Och! Angen, ti'm dychrynaist
Pan y gofwyaist un
Mewn cariad oedd mor unol,
Fynwesol im' fy hun;
Pa ochain wn'est mewn teulu ?
Pa dristwch trwy'r holl wlad?
Sawl wyneb prudd mewn dagrau,
Dan feichiau trymion gaed?

Pa'm syrthiodd colofn enwog,
Fel hardd olewydd îr?
A chymaint o rai crinion,
Sydd yn diffrwytho'r tir?
Un gweithiwr o'r cynhauaf,
Mor llwyr a lanwa'i le,
Mewn gwlad 'roedd myrdd, neu ragor,
I'w hebgor haws nag e'