Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O! Arglwydd, help i dewi,
Fel Aaron, yn ei ddydd,
A'th addef byth yn Arglwydd,
Fel Eli, gywir ffydd;
Fel Job, addoli'n dduwiol,
Gan orwedd wrth dy draed,
Pe'm diosg wneit heb fantell,
Na brawd, na mam, na thad.

Can's hi, Rhagluniaeth gadarn,
Arglwyddes fawr y ne',
Trwy fyrdd o droion dyrus
Sydd byth yn cadw'i lle;
Teyrnasu mae i'r mynud,
Wrth arfaeth roed i lawr;
Ni chyll trwy fil o oesoedd,
Ei llwybr byth, na'i hawr.

Os codi neu ddarostwng,
Os marw neu fywhau,
Os soddi myrdd i dristwch,
Neu dodi i lawenhau,
Cyfiawnder yw ei chamrau,
Ac iawn ei geiriau i gyd,
Ardderchog gwaith ei bysedd,
A chywraint oll y'nghyd.

Merchyg ei heuraidd gerbyd,
Pwy all ei rhwystro 'mlaen ?
Nid torf o bryfaid distryw,
Na llu o engyl glân;
Na sêr y nen, na'u troion,
Cymylau maith, na'u trwch,
Mynyddau mwyaf cribog,
Na'r moroedd, mwy na'r llwch.