Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oes na dagrau amddifaid,
Na phrudd och'neidiau trwm
Y weddw drallodedig,
Sy' a'i chalon fel y plwm;
Perthynas, na serchiadau
Mewn brawd, na mam, na chwaer,
Na chwaith weddiau'r eglwys,
Na'u dymuniadau taer

A all'sai gadw'r cerbyd,
Un mynud bach yn hŵy,
Na llymion saethau angeu
Heb roddi marwol glwy';
Rhaid oedd cael ROBERT adref,
O'i drallod îs y nen;
Ei waith a'i dymhor dioddef,
Wrth arfaeth ddaeth i ben.

O! 'mrawd! tydi ddiengaist
At Iesu, ac i'w gôl:
Gadewaist fi a'm brodyr,
Dan lwythau ar dy ol;
A phwy ca'i mwy ymddiddan
Am achos plant ein Tad,
A'r iechydwriaeth hynod,
Trefn y cyfammod rhad?

A thi ce's fwya' o ymddiddan
Am "ddyfnion bethau Duw,"
Am berson Crist, a chredu,
A gwir fucheddu, a byw—
Am ethol, ac am alwad,
A chlymiad cyfiawnhad,
A nerthol waith yr Ysbryd
Yn selio'r sancteiddhad.