Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Athrawiaeth, a dysgyblaeth,
Ardderchog berlau drud;
Y`gwreiddyn a'r canghenau.
Mewn graddau, aeth a'n bryd;
Pa fodd y dylid gweini
'Mhlith llestri tem nef,
A Phriod-waed bwrcaswyd
Yn eiddo iddo Ef.

Am wylio a bugeilio,
Milwrio ymdrech ffydd,
Gan gario'r cledd a'r udgorn,
A goddef pwys y dydd ;
Am galon dyner, ddrylliog,
Ond enwog wedd, fel prês,
A bysedd pendefiges,
Fel gwneir i friwiau les.

Ond ffordd yr ei'st i ganol
Llu enynol, uwch y nen,
I dreiddio mewn cyflawnder,
A llestr heb un llen;
Ai blys gwel'd mwy o degwch,
Dirgelwch marwol glwy',
Oedd, a chael cwmni uchod,
Na arosit isod mwy!

On'd oes rhyw gydsain gyfa'
Rhwng y ddwy dyrfa fawr,
Ond bod yr iaith yn burach,
Fry, nag yw ar y llawr;
Iachawdwr dyn colledig,
Drwy farw yn ei le,
Yw anthem wych yr eglwys,
O'r ddae'r i entrych ne'.