Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffarwel, fy anwyl ROBERT,
Fy mrawd a'm cymmar gwir;
Rhaid im' fod ronyn etto
Yn teithio'r anial dir;
Myfi oedd hŷn mewn dyddiau,
Ac o flynyddau naw,
Er hyny, ti flaenorodd,
Ac a brysurodd draw.

Un-mlwydd-ar-bymtheg oeddit
Pan gefaist brofi blas,
A'th droi o bechod yrfa,
Trwy athrawiaethau gras;
Er byd, a chnawd, ac uffern,
Holl rwydau Satan hy',
Ymgeledd lawn trugaredd
A'th ddaliodd yn y tŷ.

'Nol do'd i'r eglwys hylwydd,
Cyn pen naw mlwydd wrth ri',
Dechreu'st bregethu ar gyhoedd,
'R hyn a'th énnillodd di,
O hyny y'mlaen ti ddaliwyd-
Ti lwyddwyd yn y gwaith,
Nes i ben deugain mlynedd,
Ro'i diwedd ar dy daith.

Ow! bellach mwy ni chlywir
Byth sain ei beraidd dant,
Am angeu'r groes a seiniodd,
Nes llonodd llawer cant;
Ei lais, fel udgorn hynod,
Oedd am gyfammod hedd,
Yn awr mae'n ddystaw, dawel,
Yn nghesail oer y bedd.