Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ROBERT ROBERTS O GLYNNOG.[1]

GAN EBEN FARDD.

YR enw uchod a gofir ac a grybwyllir yn gyffredin gyda serch a syndod hiraethus gan y rhai a'i hadwaenent, a chyda math o ochenaid siomedig gan y rhai nad adwaenent ef, ond a glywsant y sôn mawr a rhyfedd am dano. Mae ochenaid y rhai diweddaf yn arwyddocâu gresyndod y meddwl am na buasid naill ai yn alluog i ffurfio rhyw arddrych meddyliol cryno a chywir am ei gymeriad a'i dalentau, neu ynte, na buasid yn y byd rhyw driugain mlynedd yn gynt, i'w weled a'i glywed yn gwneuthur yr amlygiadau gogoneddus hyny o zel danbaid a hyawdledd awdurdodol ag sydd wedi gadael argraffiadau mor ddyfnion ar feddyliau ei hen wrandawyr, nad allai cyfnewidiadau oes nac olyniaeth ac amrywiaeth doniau hanner canrif byth eu dileu!

Mae llawer o hysbysrwydd amgylchiadol i'w gael mewn perthynas iddo, yr hyn, fel y gallesid dysgwyl a fuasai yn foddhaol am ddyn cyffredin, ac hyd y nod am bregethwr cyffredin: megys amser ei enedigaeth, ei rieni, ei deulu a'i breswylfod, a'i alwedigaeth, a'i fywoliaeth ar hyd ei oes. Cawn hefyd hanes ei daith grefyddol, a'r amgylchiadau cyd-ddamweiniol, ei droedigaeth, ei gychwyniad fel pregethwr, ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb, ei ragoriaethau hynod, a'i farwolaeth; y'nghyda dyddiadau manol, ac awdurdod enwau personol adnabyddus, fel nad oes fawr yn y dosbarth yma o'i fywgraffiad ag y gallem yn rhesymol achwyn o'i herwydd. Ond wedi y cwbl yr ydym yn teimlo yn yr holl bethau hyn rywbeth anghyfartal â'r sôn mawr sydd am dano; yr hyn a'n tuedda i benderfynu fod rhyw beth y'nglŷn a choffadwriaeth Robert Roberts ar ôl ac yn ddiffygiol, a hyny, dybygem, ydyw ei LUN fel pregethwr. Pan edrychem ar hyny o goffadwriaeth sydd am dano, yr ydym fel yn edrych ar am-linelliad darlun. Canfyddir

  1. O'r "Traethodydd:" tu dal. 18-32.