Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhywbeth fel pen ac ysgwyddau, dwyfron a breichiau, a rhywbeth fel llyfr yn y llaw; ond ni allwn ddarganfod dim o fywiolrwydd ac arwyddolrwydd y llygad, ysgafnolrwydd neu drymolrwydd yr ael, mynegolrwydd y genau. hysbysolrwydd y talcen, a nodweddolrwydd y trwyn; pethau ag ydynt anhebgorol angenrheidiol tuag at roddi ar y darlun argraff o debygiaeth a hunaniaeth (identity). Yn union fel hyn (a siarad mewn dull cyffelybiaethol) yr ydym yn edrych ar benpryd gweinidogaethol Robert Roberts. Mae y cyffyrddiadau hyny a amlygant nwydau y meddwl, cynneddfau yr anian, a neillduolion y talentau a'r tueddiadau, heb eu rhoddi eto; a gwneyd i fyny i ryw raddau am y diffyg hwn yw dyben yr ymgais presenol.

Er mwyn nodi rhai amgylchiadau yn ei fywyd gyda manyldra, a thuag at gael ychydig o gymhorth i olrhain llinelliad ei nodweddiad, a'i lenwi i fyny yn bortreiad cyflawnach o hono, gwneir defnydd yn awr a phryd arall yn y sylwadau hyn o Gofiant bychan am dano a gyhoeddwyd gan ei nai, y Parch. Michael Roberts o Bwllheli, yn y flwyddyn 1830.

Yn y llyfryn hwn darllenwn iddo gael ei eni Medi 12fed, 1762; ac mai ei rieni oeddynt Robert Thomas a Catherine Jones (ei fam yn ol yr arfer Gymreig yn cadw ei henw gwyryfol) o'r Ffridd Baladeulyn, Llanllyfni, sir Gaernarfon.

Ei rieni yn amser ei ddygiad ef i fynu oeddynt grefyddol, yn cynnal addoliad teuluaidd yn eu tŷ, ac yn rhoddi hyfforddiadau crefyddol i'w plant. Parhâodd Robert yn anghrefyddol er hyny hyd onid oedd tuag un-ar-bymtheg mlwydd oed; a'r pryd hyny, wrth wrando ar y diweddar Barchedig Mr. Jones o Langan yn pregethu mewn lle a elwir Bryn-yr-odyn, yn agos i Gaernarfon, galwyd ef gan ei Arglwydd i'r gwaith ag oedd iddo i'w gyflawni. Ac yn lle cloddio yn nghloddfeydd llechau Llanllyfni, lle yr ymarferai ei alwedigaeth y pryd hyn, dechreuodd Duw ei gymhwyso i gloddio meini iddo i adeiladu ei dŷ ysprydol o'r tyrau llwch dynol o gwr bwygilydd i Gymru.

"Ei arfau yn y gloddfa greigiog,
I dori meini oedd dra miniog,