Ac i'w manwl iawn gymynu,
Yn ogoneddus ac i'w naddu;
Oedd ddewr i wneyd eu haddurniadau,
Er adeiladu'r da aelodau,
Gan fwrw i lawr y cestyll mawr,
A'u dirfawr greulondeb;
Yn erbyn ymchwydd annuwioldeb,
Y bu'n taranu mewn taerineb."
—Ei Farwnad, gan Dewi Wyn.
Wedi ymwasgu â'r dysgyblion, newidiodd ei alwedigaeth, ac aeth yn weithiwr amaethyddol i le yn agos i Fryn Engan; o'r lle hwnw aeth i'r Coed-cae-du, yn yr un ardal, hen gartref y diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern, lle y bu nes y priododd; ac mewn tŷ ar y tyddyn hwnw bu fyw wedi priodi am rai blyneddau, hyd nes y symudodd i Glynnog fawr, yn Arfon, lle y treuliodd y gweddill o'i oes, ac y gorphenodd yn orfoleddus ei yrfa fer a dysglaer. Cawn grynodeb byr o amseryddiaeth ei fywyd yn y llinellau canlynol o waith ei frawd, y diweddar Barch. John Roberts o Langwm:
Un-mlwydd-ar-bymtheg oeddit
Pan gefaist brofi blas,
A'th droi o bechod yrfa,
Trwy athrawiaethau gras;
***
'Nol do'd i'r eglwys hylwydd,
Cyn pen naw mlwydd wrth ri',
Dechreu'st bregethu ar gyhoedd,
'R hyn a'th énnillodd di,
O hyny y'mlaen ti ddaliwyd-
Ti lwyddwyd yn y gwaith,
Nes i ben deugain mlynedd,
Ro'i diwedd ar dy daith.
Buasai rhyw noeth-hanes fel hyn yn burion am ddyn o nodweddiad cyffredin yn ngweinidogaeth yr efengyl; eithr pan dystia ei gyd-weinidogion ac eraill a'i hadwaenent, "ei fod fel rhyw lewyrch tanbaid yn ffurfafen yr eglwys,