RHAGYMADRODD.
Arweiniwyd Mr. G. Lewis, Cyhoeddwr y Gyfrol hon,
i ymgymeryd â'r anturiaeth, oddiar deimlo mai gresyn
mawr oedd fod un o'r pregethwyr rhyfeddaf a welodd
Cymru erioed heb ddim Coffadwriaeth deilwng am dano.
Yr unig beth a gyhoeddwyd ar ffurf Cofiant oedd llyfryn
bychan gan ei Nai enwog—y Parch. Michael Roberts,
Pwllheli. Nid oedd hwnw ond hynod fyr, a chyhoeddwyd
ef wyth mlynedd ar hugain ar ol marwolaeth ei wrthddrych. Erbyn hyn, y mae pedair blynedd ar ddeg a
deugain wedi myned heibio er pan gyhoeddwyd ef; ac y
mae allan o argraff er's tua haner can' mlynedd. Yn y
cyfamser, oherwydd y son mawr am ei weinidogaeth gan
yr hen bobl, ymddangosodd erthyglau arno, a desgrifiadau
o hono o bryd i bryd, mewn amrywiol lyfrau a chylchgronau. Bu y Cyhoeddwr am rai blynyddoedd yn ddiwyd
yn casglu pob adgofion am dano y gallai ddyfod o hyd
iddynt mewn ymddyddanion â hen bobl, yn gystal ag
mewn ysgrifen. A'i amcan yn y llyfr hwn oedd, crynhoi
pob gwybodaeth a ellid ei chasglu am Robert Roberts
mewn traddodiad ac ysgrifen i'r un man, er mwyn cadw
fel hyn mewn ffurf sefydlog yr hyn oll a ellir ei wybod
am un o'r pregethwyr rhyfeddaf a welodd Cymru erioed.