Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tuag at hyn, gwerthfawrogir y Cofiant, a'r holl adgofion am dano sydd ar gael gan y rhai a'i clywsent, yn nghyda'r darluniau a dynwyd o hono oddiwrth y defnyddiau hyn gan rai nas clywsent ef. Ond gwerthfawrocach na'r cwbl yw y Triugain (ond pedair) o'i Bregethau y rhai a ysgrifenwyd ganddo ef ei hunan. Yr oedd y Pregethau hyn wedi dyfod i feddiant y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, ar ol ei dad, y Parch. John Roberts, Llangwm; ac ar ol ymadawiad y Parch. Michael Roberts, buant yn meddiant ei fab, y diweddar Mr. Robert Michael Roberts, Bala, am tua deng mlynedd ar hugain, heb fod hyny yn wybyddus braidd i neb y tu allan i gylch y teulu. Trwy garedig- rwydd ei ferch ef, Mrs. Morgan, Rhaiadr, cafwyd yr oll o honynt i'w cyhoeddi yn y Gyfrol hon.

Hyderir y bydd y llyfr yn gyfrwng addysg a symbyliad nerthol i weinidogion yr Efengyl, ac o adeiladaeth a bûdd i bawb a'i darlleno.

Y GOLYGYDD.