Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phobpeth—pobpeth ond ei bwnc. Ymgyll yn gyfangwbl yn ei destyn; ac er fod gwadnau ei draed yn sangu tir Eifion, a'i enau yn anadlu ei hawyr iachus, y mae ei enaid yn byw ac yn bod ar "glogwyn eglurlan" gerllaw y ddinas sanctaidd, yn edrych arni, i ddechreu, yn "degwch bro" ac yn "llawenydd yr holl ddaear," ac wedi hyny yn cwympo yn chwilfriw i drueni a dinystr ofnadwy. Llefara y bardd drwy yr holl awdl yr un fath a phe buasai pobpeth yn cymeryd lle o flaen ei lygaid; a dywedir ddarfod iddo gyfansoddi rhanau helaeth o honi mewn coedwig gerllaw Llangybi. Yr oedd dychymyg bywiog y bardd yn gallu gwneyd i'r pentref bersonoli Jerusalem, ac yn gallu gwneyd i'r ffrwd a furmurai rhwng y pentref a'r goedwig bersonoli afon Cedron. Byddai ambell un yn digwydd gweled y bardd, ac yn gofyn i gyfaill, "Beth mae y llanc acw yn ei wneyd yn y fan draw?" A'r ateb yn gyffredin fyddai, "Ho! rhyw lencyn o fardd ydyw, neu un sydd yn tybio ei hun yn fardd, ond barna llawer nad ydyw yn ben llathen." Bychan feddylient hwy pa heth oedd yn cymeryd lle ar y pryd yn meddwl galluog Eben. Cyfansoddodd ei awdl yn ddystaw bach; ac fel yr oedd yn eithaf naturiol, danghosodd ranau o'r cyfansoddiad i'w athraw barddonol, Dewi Wyn, er mwyn cael ei farn ef arno cyn ei anfon i'r gystadleuaeth. Beirniad llym oedd Dewi. Yr oedd braidd yn anmhosibl gwneyd dim allai enill ei gymeradwyaeth ddigymysg ef. Ond cafodd ei foddhau mor fawr yn awdl ei ddisgybl ieuanc, nes y rhdododd ganmoliaeth uchel iddi, ac anogodd ei hawdwr i fyned yn mlaen i'w pherffeithio, er mwyn ei hanfon i'r gystadleuaeth. Anfonodd y bardd ieuanc ei awdl i'r gystadleuaeth, ac ni raid mynegu pa beth a fu y canlyniad. Nid aeth efe i'r Eisteddfod ei hunan, ond cynrychiolwyd ef ar yr achlysur